MR. RICHARD ELLIS JONES. YONKERS, WESTCHESTER COUNTY, NEW YORK.

Bu farw Richard Ellis Jones, brodor o ardal Bethesda, Blaenau Ffestiniog, ar ol blin gystudd yn 49ain oed, yn ei gartref yn Yonkers, New York.

Mab ydoedd ef i Ellis Jones, y saer, clochydd yn eglwys St. Martha, Blaenau Ffestiniog.

Claddwyd yn Mount Hope Cemetery, Yonkers, New York, Tachwedd y 7fed. Gadawyd yn weddw ac amddifad ei briod, Catherine, a'i ferch, Hannah.

Yn gwasanaethu yn yr angladd yr oedd y Parch. Mr. Holland o'r Christ Church P. E., Yonkers.

Dymunir ar i bapyrau Ffestiniog godi yr uchod.

Y Drych ~ Tachwedd 12fed 1914.