MR. ROBERT JONES. WESTMORE, WILKES-BARRE, PENNSYLVANIA.
Galar i lawer fydd clywed am farwolaeth y brawd Robert Jones, Westmore, yr hwn gyfarfyddodd a damwain ddifrifol yn ngwaith glo Woodward, oddeutu wyth mis yn ol, a bu yn yr ysbyty yn Scranton oddiar hyny hyd ei farwolaeth. Chwefror 27ain, 1914.Gadawodd briod ieuanc mewn galar, hefyd chwaer yn Utica, sef priod William E. Jones, Brinckerhoff Avenue, a'i rieni yn Nghymru.
Mab ydoedd i Owen ac Ellen Jones, Brynhyfryd, Pentir, plwyf Bangor, Gogledd Cymru.
Cydymdeimlir yn fawr a'r oll yn eu profedigaeth. Bydd yn ergyd lem i'r tad a'r fam a'r brodyr yr ochr draw dderbyn y newydd trwy eu bod ar ddealldwriaeth ei fod yn gwella yn ddiweddar, wedi bod ar y dechreu yn anobeithiol. Daeth tyrfa fawr prydnawn Sul, Mawrth laf, o bell ac agos i dalu y gymwynas olaf iddo a'i hebrwng mewn parch i gapel y T. C. Kingston, lle yr oedd yn aelod, Parch. W. C. Davies, y gweinidog, yn gweinyddu, ac hefyd ar lan y bedd yn mynwent Forty Fort, lle rhoddwyd ei weddillion i orphwys.
Gan Mair Llechid.