MR. THOMAS A. JONES. NEW YORK.

Marwolaeth Ddisyfyd.


Foreu Sul, deuwyd o hyd i gorff Thomas A. Jones, a letyai yn 122 Spring Street, ar lawr ei ystafell wedi cyfarfod a'i ddiwedd trwy fygiad. Yr oedd y 'gas jet' yn agored, a'i ffenestr yn gauedig.

Y dybiaeth yw iddo gyfarfod a'i ddiwedd drwy ddamwain. Nid oedd yn arfer ganddo ddefnyddio y nwy yn ei ystafell, yn hytrach defnyddiai lusern olew, a bernir iddo godi yn ystod y nos i gau y ffenestr, ac wrth wneyd hyny iddo daro pibell y nwy, a'i agor.

Ganwyd Mr. Jones yn Dinas Mawddwy, Cymru, efe yn fab i Reese ac Ann Jones.

Daeth drosodd i America oddeutu 44 mlynedd yn ol, gan sefydlu yn y ddinas hon, a bu fyw am flynyddau ar Cooper Street, lle y bu ei briod farw oddeutu blwyddyn yn ol.

Erys i alaru ar ei ol un brawd yn y wlad hon, sef E. R. Jones o Whitesboro, a dwy chwaer ac un brawd yn Nghymru.

Yr oedd Mr. Jones yn aelod yn eglwys Bethesda (A.), ac o urdd yr Odyddion.

Y Drych ~ Mai 28ain 1914.