MR. WILLIAM JONES. 304 GLENN AVENUE, PORTLAND, OREGON.

Marwolaeth William Jones, 304 Glenn Avenue, Portland, Oregon.

Mai 20fed, 1914. — Bu farw y brawd uchod Ebrill 22ain, ar ol hir gystudd, yn 70 mlwydd oed o fewn ychydig fisoedd.

Ganwyd ef yn Mochdre, ger Conwy, Gogledd Cymru. Ei rieni oeddynt John a Elizabeth Jones, a bu farw y tad pan oedd William ond pedair oed, gan adael gweddw ac wyth o blant. Yn fuan ar ol hyn symudasant oddiar y ffarm i bentref cyfagos, lle yr aeth William yn brentis mewn shop deiliwr am bum mlynedd. Aeth oddiyno i Lerpwl lle y gweithiodd am bum mlynedd.

Yn 1871 priododd Miss Mary Roberts, un o ymyl ei hen gartref. Ymfudasant i'r America yn mis Mawrth o'r un flwyddyn, a daethant yn uniongyrchol i Cherokee, Iowa, ac yno yr ymgymerodd a'r fasnach ddillad, gyda pha un y bu yn nglyn a hi am 25 mlynedd.

Dygwyd ef i fyny gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru, ac yn aelod ffyddlon gyda hwy, a pharhaodd felly gyda'r Presbyteriaid yn y wlad hon hyd y diwedd.

Chwe mlynedd yn ol, daeth i Portland, Oregon, lle y cariodd fasnach yn mlaen hyd ychydig cyn ei farwolaeth.

Ebrill y 24ain, daeth ei luaws gyfeillion yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddo. Gwasanaethwyd gan ei weinidog, y Parch. L. K. Grimes, Hawthorne Park, Presbyterian Church, a darllenodd o'r Ysgrythyr 2 Cor. 5 x 1-10,, Psalm 23, Ioan 14 x 1-3. Gwnaeth sylwadau oddiar Psalm 116 x. 15. Yr oedd llawer o flodau yn gorchuddio ei arch, pa rai oedd yn hardd, ac yn eu mysg y delyn oddiwrth Gymry Portland.

Claddwyd ei weddillion yn Riverview Cemetery. Gadawodd i alaru ar ei ol weddw, pedwar o blant: Jennie E., Mary Catherine, Anna Marian a William Elias; hefyd brawd a chwaer iddo yn Nghymru, tua Conwy, Gogledd Cymru. Bydded i'r Arglwydd eu cysuro yn eu galar.
Gan W. R. W.

Y Drych ~ Mehefin 11eg 1914.