MR. WILLIAM H. JONES. ORISKANY, NEW YORK.
Gofidus iawn yw cofnodi eto farwolaeth un o hen Gymry parchus y cylch hwn, sef William. H. Jones, yr hwn fu farw yn nghartref ei ferch, Mrs. John L. Evans, 226 Dudley Avenue. Bu Mr. Jones yn dyoddef am ysbaid dau fis oddiwrth waeledd henaint, ac er iddo gael mwynhau dyddiau lawer, eto prudd yw y teimlad o orfod cofnodi fod ei yrfa ddaearol yntau wedi ei dwyn i'r terfyn.Ganwyd Mr. Jones yn sir Feirionydd, Gogledd Cymru, Mehefin 12fed, 1839, ac yn Rhagfyr, 1860, unwyd ef mewn priodas a Miss Anna Evans. Daethant i'r wlad hon 45 mlynedd yn ol, gan sefydlu yn Oriskany, ac wedi hyny yn Delta a Westmoreland, lle y dylynodd yr oruchwyliaeth o ffermwr. Oddeutu deng mlynedd yn ol, ymneillduodd oddi ar y fferm a daeth i fyw i Rome, lle yr arosodd hyd farwolaeth ei briod bedair blynedd yn ol.
Daeth Mr. Jones wedi yr adeg hono i gartrefu at ei ferch, Mrs. Evans, ac aelododd yn eglwys Moriah, a bu yn ffyddlon yn ol ei allu.
Heblew ei ferch a nodir, gedy Mr. Jones ddau fab, sef Evan Jones, o Syracuse, a Griffith Jones, Oriskany, a dangosir cydymdeimlad dwys a'r teulu yn eu galar.