MR. WILLIAM K. JONES. SALT LAKE CITY, SALT LAKE, UTAH.

Chwith genym orfod cofnodi marwolaeth yr hen gyfaill William K. Jones, yr hyn gymerodd le yn ei gartref 447 5th East Street, ddydd Llun, Mawrth yr 16eg, 1914.

Nid oedd iechyd yr ymadawedig wedi bod yn dda iawn er's misoedd, ond ni thybiwyd fod ei gyflwr mor ddrwg nes cafwyd allan rhyw bymthengnos cyn ei farwolaeth ei fod yn dyoddef oddiwrth y Brighit's Disease. Dyoddefodd ei waeledd yn dawel ac amymeddgar, ac ymadawodd a'r fuchedd hon mewn llwyr ymorphwysiad ar ei dad nefol.

Yr oedd yn briod hawddgar, ac yn dad tyner, a threuliodd fywyd llafurus, gonest a chrefyddol.

Ganwyd Mr. Jones yn Bethesda, Gogledd Cymru yn 1846, ac yn Medi, 1864, ymbriododd yn Liverpool a Martha Davies, Halkin, Gogledd Cymru.

Daethant i'r Unol Dalaethau yn 1887 a thrigiasant yn Plymouth, Pennsylvania, am oddeutu pum mlynedd, ond o herwydd afiechyd Mr. Jones, symudasant i Park City, y Dalaeth hon, lle y trigiasant am oddeutu un mlynedd ar ddeg. Yn ngorff y deng mlynedd diweddaf y mae'r teulu wedi gwneuthur eu cartref yn y ddinas hon.

Yn mis Medi diweddaf yr oeddynt yn dathlu eu priodas euraidd. Claddwyd ef ddydd Mawrth, yr 19eg, yn mynwent Mount Olivet. Cynaliwyd y gwasanaeth angladdol yn y ty, yn nghyd a'r gwasanaeth arferol ar lan y bedd, a daeth cynulliad lluosog iawn i dalu y gymwynas olaf iddo. Canwyd dau emyn yr oedd Mr. Jones yn bur hoff o honynt yn Gymraeig yn y ty ac wrth y bedd.

Gwasanaethwyd yn y ty ac wrth y bedd gan y Parch. Peter Simpkin. Gadawodd i alaru eu colled ei briod a thair o ferched, Martha, Mary a Mrs. Elizabeth Browning. Dyddanoo yr Arglwydd hwynt yn eu dirfawr drallod.
T. E.

Y Drych ~ Ebrill 16eg 1914.




The Bethel Courier, Vermont ~ January 23rd 1913.