MR. HUGH OWEN LEWIS. PORTAGE, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.
Ar y 10fed o'r mis hwn galwvd arnom i Portage City; Wisconsin, i angladd un o'r hen gewri, sef H. O. Lewis.Ganwyd ef Gorphenaf 30ain, 1830, yn Prysgau, Celynin, sir Feirionydd. Gof oedd wrth ei alwedigaeth, ac yr oedd Mr. Lewis o linach y cewri y rhai a elwid giants Plas Joly. Llanagryn o ochr ei fam, sef Susan Lewis, yr hon oedd yn wraig o synwyr cryf ac o gorff grymus. Gelwid hwy yn gewri am eu bod oll yn eithriadol fel teula mewn maintioli corfforol, ac yr oedd yntau yn cadw nodweddion y teulu yn llawn.
Yr oedd Mr. Lewi syn frawd i'r hen ddiacon nodedig, Lewis Rees, Llwyngwril, yr hwn a adeiladodd gapel i'r enwad Wesleaidd yn agos i Lwyngwril ar ei draul ei hun, yr hwn sydd yn golofn o goffadwriaeth i'w enw. Mae yntau wedi rhagflaenu ei frawd i'r wlad well. Ond er mor gadarn oedd pabell bridd Mr. Lewis, nid hir y bu angeu yn ei malurio. Bu farw yn sydyn o ddiffyg ar y galon ar y seithfed o'r mis hwn.
Ymfudodd Mr. Lewis o Gymru yn y flwyddvn 1851 gydag amryw o Gymry eraill, ac ychydig o'r rhai hyny sydd yn fyw heddyw. Rhoddodd ei fam ef o dan ofal ei ewythr, J. W. Jones, Ty'nycoed, wedi glanio yn New York ar ol teithio mor y Werydd am 30 o ddyddiau. Aeth ef allan o'r llong a dychwelodd yn galonog at ei ewythr gan ddweyd ei fod am aros yn New York: ei fod wedi cael gwaith, a bu yn llwyddianus yno gyda'i alwedigaeth yn yr hon yr oedd wedi ei hyfforddi gyda ei ewythr, Evan Jones. Gweithiodd yn ddiwyd a darbodus hyd y fiwyddyn 1854, pryd yr unwyd ef a Miss Elizabeth Jones mewn glan briodas, a bu hi yn ymgeledd gymwys, yn wraig rinweddol ac yn fam dyner yn ngwir ystyr y gair.
Yn 1856, symudasant i Wisconsin: cododd adeilad ar dir ei ewythr, J. W. Jones, Ty'nycoed, i weithio ei grefft, ond gwelodd well mantais yn y ddinas i wneyd bywoliaeth, felly yn mhen y flwyddyn, symudasant i Portage City, ac yno y buont hyd angeu, a ganwvd iddynt chwech o blant, o ba rai y mae pedwar yn fyw, sef John, Hugh, Bennett, a Mrs. Annie Moore: oll mewn sefyllfa gysurus, ac mewn safleoedd anrhydeddus, a'u cymeriadau yn ffrwyth naturiol o'u dygiad i fyny.
Ar ol iddo golli Mrs. Lewis trwy angeu, Chwefror 9fed, 1904, gwnaeth Mr. Lewis ei gartref yn benaf gyda ei fab. Hugh G. Lewis, a'i briod, ac ymwelai a'r plant eraill yn achlysural, a chafodd gartref cysurus a'r gofal mwyaf tyner a ffyddlon a oedd yn bosibl, ac aml y canmolai mor garedig oedd ei blant a'i wyrion tuag ato.
Yr oedd Mr. Lewis yn aelod ffyddlon gyda'r Wesleyaid er yn ieuanc, ac yn llawn sel a haelioni gyda'r achos, ac er ei fod gyda'r Saeson er yn agos i haner canrif, Cymro i'r carn ydoedd ef, a byddai yn falch iawn o gael dod at y Cymry yn achlysurol i wrando yr efengyl yn hen iaith ei dadau. Yr oedd er ys amser yn rhodio rhosydd Moab, a theimlem ei fod yn cael ei barotoi o ran ei ysbryd i groesi yr Afon heb ofni niwed, am fod yr Iesu gydag ef ac fod y fath gysylltiad rhyngddynt nas gallai angeu mo'i dori.
Dyn oedd Mr. Lewis a wnaeth yn fawr o'r ddau fyd; bu yn weithgar, yn gynil a darbodus yma, a chafodd llawer o hono. Yr oedd yn ddyn o ymddiried mewn masnach, gwleidyddiaeth a llanwai safleoedd pwysig fel y cyfryw yn ei ddinas lle y cartrefai; ond er hyn oll daliai ei afael yn dyn yn ei grefydd, ac yr oedd ei grefydd yn fforddio mwy o gysur iddo na dim arall. Felly, ni a gredwn heddyw ei fod yn y wlad tu draw i'r afon yn mwynhau etifeddiaeth well na phethau y ddaear hon. Heddwch i'w lwch hyd foreu yr adgyfodiad.
Ar y degfed cafodd angladd anrhydeddus, gweinyddwyd gan ei weinidog, y Parch. Penn. ac yr oedd llu o berthynasau wedi dod i dalu y gymwynas olaf iddo o Randolph a Milwaukee a Racine. Bydd yn chwith genym na chawn ei gwmni yma mwy.
Gan J. P. Jones.
Y Drych ~ Tachwedd 19eg 1914.
MR. HUGH OWEN LEWIS. PORTAGE, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.
Trist yw gorfod adrodd am farwolaeth rhai o'r hen Gymry ag sydd wedi byw yn nghanol Americaniaid a chenhedloedd eraill, ac wedi cadw anrhydedd yr hen genedl Gymreig i fyny.Un felly oedd Hugh O. Lewis, o Portage, Wisconsin, yr hwn a hunodd yn yr angeu brydnawn ddydd Sadwrn, Tachwedd 7fed, 1914, yn nghartref ei fab, Hugh, ar 105 East Pleasant Street.
Nid oedd iechyd Mr. Lewis wedi bod yn dda ers dros ddwy flynedd, ond yr oedd ganddo gorff cadarn, ac ychydig o sylw a dalai i'w iechyd o herwydd hyny. Y prydnawn Sadwrn crybwylledig wedi ciniaw, aeth i orphwyso ar y 'couch' yn y parlwr, ac yno a'r bywyd wedi ehedeg ymaith y cafodd ei fab a'i briod ef am dri o'r gloch y prydnawn. Bu farw o fethiant y galon, a thystiai yr olwg dangnefeddus ar ei wyneb iddo gael ei gymeryd ymaith heb ddyoddef poen o gwbl.
Nid ydym yn sicr o enw y man y ganwyd yr ymadawedig, ond dywedir yn y newyddiadur gyhoeddir yn Portage mai yn Prysau, plwyf Elynin, yn Ngogledd Cymru, y gwelodd oleuni dydd gyntaf, ac iddo ymfudo i America yn y flwyddyn 1851, gan sefydlu yn New York. lle y dylynodd yr alwedigaeth o ofaint. Gorphenaf 28ain, 1854, ymunodd mewn priodas a Miss Elizabeth Jones, yr hon a fu iddo hyd ddydd ei marwolaeth yn gydymaith deilwng ac yn ymgeledd gynwys.
Yn Ngwanwyn 1856, symudasant o New York i Wisconsin, gan sefydlu yn Randolph, ond yn mhen un flwvddyn symudasant oddi yno i Portage, lle y treuliasant y gweddill o'u dyddiau.
Wedi dod yma agorodd Mr. Lewis efail gof a maelfa i werthu taclau fferm, a bu yn y busnes hwn am ddeugain mlynedd hyd nes y daeth hen ddyddiau bwyso yn drwm arno, fel ag i'w orfodi i roddi i fyny.
Yn ystod y blynyddoedd yna, bu drosodd yn ei hen gartref yn Nghymru dair gwaith, a phleser iddo oedd adrodd am ei deithiau yn yr Hen Wlad. Ganwyd iddynt chwech o blant, John, yr hwn ar hyn o bryd sydd yn llywydd y First National Bank of Antigo; Hugh G. Lewis, Portage, aelod o'r ffirm Lewis, Theil a Bennett; R. Lewis, sy'n fasnachwr cyfrifol yn Rhinlander; Lewis H., fu farw yn faban; Susie J., fu farw Tachwedd 19eg, 1897; Annie (Mrs. F. E. Moore) o Rhinlander.
Bu yn dal amryw swyddau cyhioeddus, ac am chwe blynedd yr oedd ar fwrdd yr henaduriaid yn cynrychioli y Third Ward. Yn ei gysvlltiadau masnachol yr oedd yn boblogaidd, a bu a llaw amlwg yn nghynydd masnachol y dref. Adeiladodd amryw fasnachdai o bwys yn y lle. Gyda'r First M. E. yr addolai Mr. Lewis, a daliodd amryw swyddi yno, bu yn ymddiriedolwyr yr eglwys am faith flynyddau.
Yr oedd hefyd yn aelod o'r Wauona Lodge, Rhif 12. I. O. O.F.
Y dydd Mawrth dylynol, ymgasglodd torf fawr yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i'w weddillion. Cymerodd y gwasanaeth angladdol le yn eglwys y First M. E., y Parch. W. H. Penn, y gweinidog, yn gwasanaethu, a chanwyd dau emyn pwrpasol gan Mrs. O. V. Cutting a Mrs. F. G. Schulze. Yr elorgludwyr anrhydeddus oeddynt L. L. Breeze, E. L. Jaeger, John Graham. Wm. Fulton, E. Maxwell a L. H. Biglow, a'r elorgludwyr gweithredol oedd Lyman Warrington, A. C. Taylor, F. L. Sanborn, T. J. Wells, H. G. Hylanda Louis Prehn.
Daearwyd ei weddillion yn mynwent Silver Lake.