MISS ELIZABETH LLOYD. LA MOURE, NORTH DAKOTA.
Ganwyd gwrthrych yr ysgrif yn Waen Rydd, yn agos i Corwen, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1842; merch ydoedd i David ac Ann Lloyd.Daeth y teulu drosodd o Gymru i'r America yn y flwyddyn 1850; claddasant fab, sef Evan, ar y daith ar y mor. Cyraeddasant Mill Creek, yn awr Blue Mounds, Wisconsin, y dydd cyntaf o Tachwedd, 1850. Gwnaethant eu cartref am ychydig gyda Peter Lloyd, hyd y flwyddyn 1852, pryd y cymerodd David, eu tad, 'homestead claim' yn agos i Barneveld. Ar yr homestead yma y gwnaethont eu cartref, ac y mae y tad a'r fam erbyn hyn wedi eu claddu yn y fynwent gyfagos i Barneveld.
Gwnaeth Miss Lloyd ei chartref ar y fferm hyd y flwyddyn 1907, pryd y symudodd at ei brodyr Robert a David Lloyd, La Moure, North Dakota, ac yma y bu yn cartrefu hyd ei marwolaeth, Ebrill 18fed, 1914.
Gadawodd i alaru ar ei hol y ddau frawd nodir uchod, a chwaer, Mrs. A. J. Lockman, yr oll yn La Moure. Cafwyd gwasanaeth byr yn y ty, ac yn yr eglwys Bresbyteraidd, o ba un yr oedd hi yn aelod er ei dyfodiad i'r dref. Siaradodd y gweinidog, y Parch. Dr. McIntyre oddiar y geiriau yn 1 Cronicl 29: 15, 'Ac alltudion fel ein holl dadau."
Ar ol y gwasanaeth yn yr eglwys, aed a'r gweddillion o dan nawdd yr Eastern Stars ar fwrdd y tren i'w cludo i Barneveld, Wisconsin. Yma o dy ei chefnder, John Roberts, y cymerodd yr angladd le ddydd Mercher, Ebrill 22ain. Gwasanaethwyd yma gan y Parchn. Thomas Evans, G. W. Horn, B. F. Schoenfeld a J. R. Lindsley. Cymerwyd rhan hefyd gan yr Eastern Star, o Dodgeville, o ba urdd yr oedd Miss Lloyd yn aelod. Yr oedd yn un o'r angladdau lluosocaf a gynaliwyd erioed yn y gymydogaeth; cyfeillion wedi ymgynull o bob rhan o'r dalaeth i dalu y gymwynas olaf o barch a chariad iddi. Tystia hyn yn nghyd a'r blodau lawer a ddanfonwyd ar ddydd ei hangladd, y lle parchus oedd iddi ya nghalonau ei chyfeillion.
Yr oedd gan Miss Lloyd ffordd i wneyd cyfeillion; nid yw yn bosibl ei esbonio. Yr oedd ganddi ffordd i wneyd achosion rhai eraill, yn achosion iddi ei ihun. I ba le bynag yr elai, byddai ei chyfeillion yn llu, ac o bob rhan o'r wlad mae llythyrau o gydymdeimlad a'r teulu yn eu profedigaeth yn dyfod i law, oddiwrth gyfeillion na wyddai neb ond y hi amdanynt. Meddai ar galon fawr agored, ac yr oedd yn ei phleser yn croesawu gweinidogion yr efengyl, a gall llawer o honynt heddyw dystio i'r ffaith iddynt gael croesaw calon o dan ei chronglwyd.
Yr oedd hefyd yn ffyddlawn i Iesu Grist, i bob Cwlwm teuluaidd, ac i'r eglwys yn La Moure, o ba un yr oedd yn aelod. Tystiai ei gweinidog yn ei bregeth i'w chymeriad fel un dysglaer; yn llawn sel dros lwyddiant achos Iesu Grist, yn weithgar yn y winllan. Tystia ei bod wedi colli gweithiwr selog pan yn colli Miss Lloyd o'r eglwys. Y mae ei marwolaeth yn golled nid yn unig i'r eglwys ond i'r dref hefyd.
Y mae cydymdeimlad cyfeillion lu, a chydymdeimlad dyfnaf y dref, lle y cartrefai, yn cael ei estyn i'r ddau frawd a'r chwaer yn eu profedigaeth chwerw. Nawdd y nefoedd fyddo trostynt, gan eu dwyn i ystyried "nad oes i ni yma ddinas barhaus, eithr un i ddyfod yr ydym yn ei dysgwyl, saer ac adeiliadydd yr hon yw Duw. Un yw teulu Duw yn Nghrist Iesu; rhan y tu yma i'r llen, a rhan y tu draw iddi. Ond rhyw ddiwrnod byddant yn un teulu mawr gogoneddus am byth, yn nhy eu Tad. Gwirionedd melus i ni i'w gofio, tra yn teithio fel y pererinion gynt yn nyffryn Baca, i ymddangos ger bron Duw yn Seion; y Seion nefol yn gartref i'r plant. Anwylyd, "nid amlygwyd eto beth a fyddwn, eithr ni a wyddom pan ymddangoso Efe, y byddwn gyffelyb iddo, oblegid ni a gawn ei weled Ef, megys ag y mae."
Gan y Parch. W. Bryn Jones.