SARAH EVANS. BOSTON, MASSACHUSETTS.

An American lady, Mrs Sarah Evans, of Boston, U.S., is at present on a visit to this country, and is staying at Corris.

Mrs. Evans is the widow od Mr. David Evans, formerly of Maesybwlch Upper Corris. On the death of her husband eight or nine years ago, she left for America, and settled at Boston, where her eldest son, Mr. Richard Lloyd Evans, was engaged as steward at the Fairhaven Silver Nines, Pennsylvania. She was accompanied by her two other sons, Mr. Evan Evans, who is now manager of a wholesale warehouse at Boston, and Mr. David Lloyd Evans, who is a successful attorney at Boston, and a member of the staff of the the "Drych," the recognised organ of American Welshmen.

Mrs. Evans intends to remain in her native country for two months.

Welsh Gazette and West Wales Advertiser ~ July 24th 1902.


SARAH EVANS. BOSTON, MASSACHUSETTS.

Priddo Chwaer o Drawsfynydd.

Y mae angeu yn cyflym deneuo rhengau hen bererinion Cymreig Boston a'r cyffiniau, a phrynhawn ddydd Sadwrn, Mawrth 7fed, collwyd dolen arall o'r gadwen Gymroaidd ym marwolaeth y chwaer annwyl Sarah Lloyd Evans, o fewn ychydig wythnosau i fod yn 71 mlwydd oed.

"Un genedlaeth a â ymaith a chenedlaeth arall a ddaw," ac wele yr olaf o blant y diweddar Richard a Jane Lloyd, Ty'nrhedyn, Church Street, Trawsfynydd, wedi dirwyn ei gyrfa ddaiarol. Ganwyd i Richard a Jane Lloyd bump o blant, sef Griffith, William, Richard, Margaret, a Sarah, yr oll wedi rhagflaenu ein hannwyl chwaer.

Ymfudodd Sarah pan yn lled ieuanc i Corris, ac ymbriodd oddeutu saith mlynedd a deugain yn ol â Dafydd Evans, mab i Evan Evans, Maesybwlch, Corris Uchaf, teulu adnabyddus ag a fu yn hynod flaenllaw ynglyn a sefydlu achos crefydd yng Nghorris, ac am y rhai y gwna y diweddar Barch Griffith Ellis, M.A., Bootle, sylw arbenig- amdanynt yn ei gyfrol ar Hanes Methodistiaeth Corris a'r amgylchoedd.

Cynhaliwyd gwasanaeth angladdol bryhnawn cldydd Mercher, Mawrth 13 eg, o dy ei mab, Evan, 1460, Washington St., Boston. Yna aed a'r corff i'r Immanuel Baptist Church, yn Dorchester, lle y cynhaliwyd gwasanaeth angladdol gan y gweinidog, y Parch J. Cromwell Hughes, B.A., yn cael ei gynorthwyo gan y Parch J. Wynne Jones.

Wedi'r gwasanaeth yn y capel, hebryngwyd ei gweddillion i fynwent Mount Wollaston, Quincy, Mass., y Parch J Cromwell Hughes yn gweinyddu wrth y bedd.

Y Dinesydd Cymreig ~ Ebrill 22ain, 1914.