MRS. JANE MORRIS. FLOYD, NEW YORK.
Foreu Gwener, Medi lleg, yn ei chartref yn Floyd, New York, bu farw Mrs. Jane Morris, gweddw Thomas W. Morris. Oddeutu pedair wythnos yn ol, cafodd ymosodiad o'r pneumonia, a gwanychodd yn raddol hyd oni orfu angeu, ac yr hunodd yn yr Iesu.Ganwyd Mrs. Jones yn sir Arfon, Gogledd Cymru, oddeutu 77 mlynedd yn ol, ac yno yn y flwyddyn 1860 yr ymbriododd a Mr. Morris.
Yn mhen y flwyddyn wedi eu priodas daethant i'r wlad hon gan sefydlu yn Marcy, ac oddi yno symydasant i Floyd. Bu Mr. Morris farw oddeutu tair blynedd yn ol.
Yr oedd yr ymadawedig yn aelod ffyddlawn o'r eglwys Gymraeg yn Floyd, ac yn wraig a gair da iddi gan ei chydnabyddion.
Gedy mewn galar un ferch fabwysiedig, Mrs. Thomas R. Bowen; un wyr, Thcmas W. Bowen, a dwy chwaer a brawd, sef Mrs. Ann Roberts, Utica; Mrs. Sarah Green, Valparaiso, Indiana, a John Jones, Central City, Nebraska.
Daearwyd ei gweddillion yn Wright Settlement ddydd Sul, ar ol gwasanaeth yn y ty ac ar lan y bedd.