MR. GRIFFITH G. OWEN. RANDOLPH, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.

Brydnawn dydd Mercher,. Hydref 14eg, yn ei gartref ef a'i ferch, Mariah, yn hynod ddirybudd, daeth yr alwad ar ein hanwyl ewythr, Griffith G. Owens, i drafaelio'r ffordd ar hyd yr hon ni ddychwela. O ddyn cyffredin, yr oedd wedi trafaelio cryn lawer; a'i daith fawr gyntaf oedd gyda'i rieni o Gymru i'r wlad hon, a hyny pan yn 17eg oed, a daethant yn uniongyrchol i o fewn wyth milldir i'r man lle y gadawodd y fuchedd hon am y wlad o ba un ni ddychwel neb o'i thrigolion i roddi dim gwybodaeth bellach i ni am y wlad nag a roddir i ni yn y datguddiad Dwyfol.

Yr ail daith o bwys ydym yn gofio iddo gymeryd oedd gyda'i chwaer (ein mam), a hyny yn niwedd 1872 a dechreu 1873 i Slatington, Pennsylvania, i edrych am ei chwaer, Mrs. Esther Williams, priod Henry Williams, Ty Newydd, ac yn sicr, fe dreuliodd ef a'n mam lawer awr ar ol hyny yn difyru eu hunain a ninau oedd yn eu gwrandaw, tra yr oeddynt yn desgrifio y daith hono.

Taith fawr arall a wnaeth ef a'i briod oedd i Seattle, Washington, i edrych am eu merch a'i gwr, Mr. a Mrs. D. O. Davis, Cambria yn awr, ac yr ydym yn cofio yn dda ei glywed yn adrodd mewn modd dyheuig a tharawiadol iawn hanes y daith hono dros y Rockies, y pontydd, a thrwy y twnel, etc.

Nid oedd ein hanwyl ewythr yn ddyn heb argyhoeddiad, a hwnw yn argyhoeddiad dwfn. Ganwyd ef yn Mehefin (nid yw y dydd yn hysbys), 1829, yn sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, ac enwau ei rieni oedd Griffith ac Elizabeth Owens. Yr oedd yn un o wyth o blant, chwech o ferched a dau o feibion, ac efe oedd yr olaf o'r teulu i gael ei gymeryd ymaith.

Gadawodd wlad ei enedigaeth gyda'i rieni yn 1846, a daethant yn uniongyrchol i Wisconsin, i ardal Blaenycae, swydd Dodge a Columbia, ac fel dyn ieuanc darbodus, pan yn un-ar-hugain oed, prynodd fferm dda yn ardal Lake Emily, yn agos i Fox Lake, ac y mae y fferm yn meddiant y plant yn awr.

Blwyddyn yn ddiweddarach, yn Rhagfyr, 1851, priododd Mary Morris, ac fe brofodd y briodas yn un fendithiol yn ngwir ystyr y gair, a ganwyd iddynt saith o blant, pedwar mab a thair merch. Bu y briodas yn un hapus yn yr ystyr o fod yn llwyddianus i gasglu da bydol, pob un o'r plant wedi llwyddo i ddod i feddiant o gartrefi clyd a gwerthfawr, ac enill iddynt eu hunain gymeriadau da.

Profodd y briodas yn un eithriadol o ran ei pharhad, sef o Rhagfyr 1851 hyd Hydref 1913. Marwolaeth ei briod oedd y farwolaeth gyntaf yn y teulu, a bu farw un flwyddyn ac un diwrnod o flaen ei phriod. Profodd y flwyddyn ddiweddaf yn un brofedigaethus iddo ef a'i deulu. Claddodd ei ferch hynaf, Elizabeth Ann, priod Robert Owen, Cambria; hefyd, wyres anwyl iawn iddo ef ac i bawb a'i hadwaenai, sef Miss Katie Davis, Cambria.

Da genym allu dweyd wrth derfynu, ac nid tystiolaeth ddibwys yw chwaith, yr oedd y pedwar yn aelodau cyflawn a pharchus yn eglwys Crist: efe a'i briod yn aelodau gyda'r Annibynwyr Seisnig yn Fox Lake. a'r ferch a'r wyres. gyda'r M. C. yn Cambria.

Claddwyd ef y Sadwrn canlynol, y Parchn. F. T. Roberts, M. C., Randolph, yn gweinyddu yn y ty ac wrth y bedd, yn nghyd a J. D. Whitelaw (A.).
Gan ei nai, R. F. Roberts.

Y Drych ~ Ionawr 7fed 1915.