MRS. JANE MARY OWEN. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Marwolaeth Gwraig Ieuanc.

Nos Lun, Chwefror 2ail, 1914 yn un o ysbytai y ddinas, bu farw Mrs. Jane Mary Owen, priod Edward Owen, New York, hyhi wedi dyoddef cystudd maith a phoenus iawn.

Ganwyd Mrs. Owen yn Llithfaen, ger Pwllheli, Gogledd Cymru, ar y 26ain o Fedi, 1882; enwau ei rhieni oeddynt Griffith a'r diweddar Jane Roberts.

Yn 1906, ymfudodd i'r America, gan sefydlu yn Utica, a bu yn gwasanaethu gyda theuluoedd cyfrifol yn y ddinas.

Oddeutu pum mlynedd yn ol, ymunodd mewn priodas a Mr. Edward Owen (gynt o 93 High St., Ffestiniog), ond yn fuan dechreuodd ei hiechyd ddadfeilio, a bu yn wael iawn am amryw fisoedd. Yr oedd yn aelod o eglwys Moriah (,M. C.), lle yr oedd yn fawr ei pharch o herwydd ei bywyd tawel a dilychwin.

Heblaw ei phriod gedy mewn galar ei thad yn Llithfaen, Gogledd Cumru, a'i brawd Robert G. Roberts, yn North Carolina, a'r rhai y mae dwfn gydymdeimlad.

Y Drych ~ Chwefror 5ed 1914.