MRS. JANE MARY OWEN. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Hydref 17eg, 1913, bu farw Mrs. Mary Owen, anwyl briod Griffith G. Owen, Fox Lake, Wisconsin, yn 84 mlwydd oed.

Ganwyd hi Medi 18fed, 1829, yn mhlwyf Mallwyd, yn agos i Ddinas Mawddwy, Sir Feirionydd. Ei rhieni oeddynt Morris ae Ann Morris o'r lle uchod.

Daeth i'r wlad hon yn y flwyddyn 1849, ar y "Jamestown," llong ag y bu llawer o son am dani o dro i dro, ac yr oedd ar ei bwrdd y tro hwn lawer o Gymry yn croesi, ac yn eu plith ddau bregethwr o nod, sef Evan Griffiths, Llanegryn, Annibynwr, ac Humphrey Humphreys, Weslead; am y rhai yr oedd ganddi barchus gof, ac y byddai yn aml yn son am danynt.

Wedi glanio daeth yn uniongyrchol i Wisconsin, ac i Fox Lake, lle y cyfarfyddodd gyntaf a Griffith G. Owen, a'r lle hefyd y priodwyd hwynt Rhagfyr, 1851. Ar ol priodi aethant i fyw, ar eu tyddyn yn ardal Lake Emily, lle y buont yn cartrefu am 48 o flynyddoedd, lle y ganwyd iddynt saith o blant, pedwar o feibion a thair o ferched, y rhai sydd oll yn fyw ac oeddynt bresenol yn ei hangladd. Y hi ydoedd y gyntaf i gael ei galw ymaith o'r teulu.

Pedair blynedd ar ddeg yn ol, gosodasant y fferm a symudasant i Fox Lake i dreulio gweddill eu hoes. Bu yn briod ffyddlon, ac yn fam dda a gofalus, am yn agos i 62 o flynyddoedd. Ymunodd a chrefydd tua'r flwyddyn 1859, a pharhaodd hyd y diwedd. Fe garai son am Iesu Grist yn ystod ei bywyd, a'i hoff emyn oedd "Am Iesu Grist a'i farwol glwyf," ond fel y dywedodd ei weinidog ddydd ei angladd, mai un yn gweithio yn ddystaw ac o'r golwg ydoedd, fel y tanwyr mewn llong allan o olwg ac allan o glyw.

Cyfarfyddodd a damwain chwe blynedd yn ol trwy gwympo ar y rhew a thori ei haelod, yr hyn a'i hanalluogodd i gerdded heb gymorth y gweddill o'i hoes, ond dyoddefodd yr oll yn dawel a dirwgnach.

Byr fu ei chystudd diweddaf, ac ni feddyliwyd fod pen ei gyrfa mor agos. Cynaliwyd y gwasanaeth angladdol yn y ty. Gwasanaethwyd gan ei gweinidog, y Parch. Whitelaw, ac hebryngwyd ei gweddillion i fynwent Randolph.

Huned yn dawel hyd forteu y codi, pan y bydd dorau'r beddau y byd ar un gair yn agoryd.
Ei phriod galarus.

Y Drych ~ Chwefror 5ed 1914.