MR. OWEN ELLIS OWEN. BROOKLYN, NEW YORK.

Owen Owens Rushed to Hospital in Ceritical Condition.

The overturning of a stove on the second floor of a two family house at 63 Havens place, this afternoon may result in the death of Owen E. Owens, 81 years old, who was burned on the legs and body and is in a dying condition in the Bradfoed Street Hospital.

The aged man lived there with his daughter, Mrs. Ella Davis, and his 3 year old grandson.

He accidentally knocked ovet the kitchen stove, and the coals set fire to his trousers. His cries were heard by a street cleaner, who rushed up into the house, seized a blanket from the bed and extinguished the flames.

Owens was unconsious a few moments after he was burned, and an ambulance surgeon who was summoned, said there was little or no hope for his recovery.

Mrs. Davis, who had fainted, and her boy, were carried out of the house by several men, who followed the street cleaner in. The damage to the house was slight.

The street cleaner went away without giving his name.

The Brooklyn Daily Eagle ~ January 6th 1914.


MR. OWEN ELLIS OWEN. BROOKLYN, NEW YORK.

Marwolaeth brawychus Owen Ellis Owen (Eos Ceiri). Daeth y newydd trwm fod y brawd Owen Ellis Owen wedi marw mewn modd echrydus. Yr oedd yr hen frawd mewn gwth o oedran, sef 82 mlwydd oed, ac mewn cyflwr llesg o herwydd henaint, ac ni fedrai symud heb gynorthwy. Yr oedd yn eistedd mewn cadair, ac yr oedd yr hin yn lled oer ac er mwyn ei gysuro rhoddwyd stove olew yn yr ystafell fel ac i gynesu y lle, gan roddi siars arno beidio symud nac ymyraeth a'r stove, aeth y fam a'r ddwy ferch i'r gegin at eu gorchwyl ty, ond cyn ychydig amser aroglwyd mwg ac wedi myned i'r ystafell yr oedd yr hen wr wedi syrthio ac wedi dymchwel y stove, a llosgwyd ef yn ddychrynllyd.

Awd ag ef i'r ysbyty, ond bu farw mewn ychydig fynydau ar ol cyraedd. Yr oedd y meddyg yn dweyd mai wedi cael ergyd o'r parlys yr oedd.

Cynaliwyd gwasanaeth angladdol yn maelfa claddu ar Amsterdam Avenue a 102 Street nos Wener, daeth cynulleidfa fawr yno i dalu y warogaeth olaf iddo, ac fel y dywedodd rhyw un yn fy nghlyw mai cynulleidfa o'r hen sefydlwyr oedd yno. Dr. Roberts oedd yn gwasanaethu yn yr amgylchiad, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. Hugh Pritchard.

Tad yr amddifaid fo yn dyner wrth y weddw oedranus a'r ddwy ferch sydd wedi eu gadael ar ol i alaru.

Daeth y teulu yma o Gymry flynyddoedd yn ol, wyth mewn rhif, y tad a'r fam a chwech o blant, ond nid oes ond tair yn aros, pedwar o'r plant wedi rhagflaenu y tad.

Hebryngwyd ei weddillion i fynwent Kensico ddydd Sadwrn. Heddwch i'w lwch.

Y Drych ~ Ionawr 15fed 1914.