MRS ELLEN OWENS. RANDOLPH, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.
Nos Wener, Chwefror 13eg, yn ei chartref yn Randolph, Wisconsin, bu farw Mrs. Morris D. Owens. Ganed Mrs. Owens yn Capel Curig, sir Gaernarfon, Ionawr 29ain, 1841.Tra nad oedd hi eto ond rhwng chwech a saith mlwydd oed, ymfudodd ei rhieni i'r wlad hon, gan ymsefydlu yn nghyffiniau Rome, New York, ac yno y bu hithau fyw hyd ei phriodas a Mr. Morris D. Owens, yr hyn a gymerodd le Chwefror 3ydd, 1873. Yn fuan wedi hyn, daethant allan i Wisconsin, ac ymsefydlasant yn ardal Jerusalem, Welsh Prairie.
Yma y ganwyd y plant, — David Owen, Wm. D., Davy M. a Newton. Byr iawn fu einioes David Owen a Davy M., ond y mae y ddau arall yn aros hyd heddyw, a'u galar am fam dyner a gofalus, yn fawr.
Yn Hydref 1896 symudodd y teulu i Columbus, ac yma y bu farw'r priod a'r tad. Cymerodd hyn le rywbryd yn Mai y flwyddyn 1898. Buont fyw yn Columbus am un-mlynedd-ar-ddeg, hyd eu symudiad i Randolph yn 1907.
Cawsai Mrs. Owens iechyd cymedrol hyd o fewn rhyw dair blynedd yn ol. Rhyw ychydig gyda blwyddyn sydd er pan ymosodwyd arni gan yr anhwyledd fu'n achos ei marwolaeth. Bu dan driniaeth lawfeddygol yn ysbyty Columbus am ysbaid, a thybid ar ol hyny, ei bod yn araf wella.
Bu farw'n dawel a thangnefeddus, fel un yn syrthio ar gwsg. Yr oedd tawelwch a thangnefedd yn nodweddion amlwg yn ei bywyd. Ni ddyrchai ei llais, ac ni pharai glywed ei llef. Yr oedd, er hyny, yn un o aelodau ffyddlonaf eglwys y Trefnyddion Calfinaidd yn y lle hwn. Hoffai'r ty, a'i ordinhadau, a gwnaeth ddefnydd o honynt tra y parhaodd ei hiechyd. Yr oedd yn bresenol yn holl gyfarfodydd yr wythnos weddi a phleser oedd ei gwrando yn adrodd mor dda ganddi a fuasai hyny. Darllenodd lawer ar ei Beibl, a chanodd lawer ar yr hen emynau. Darfu'r gan yr ochr yma, ond aeth hi i wlad na bydd - "diwedd, Byth ar swn y delyn aur."
Dodwyd ei gweddillion i orwedd wrth ochr ei phriod, yn mynwent Cambria, dydd Llun, Chwefror 16eg. Gweinyddwyd yn yr angladd gan ei gweinidog, y Parch F. Tegfryn Roberts a'r Parchn. R. J. Williams a J. R. Jones (Hendref). Mae un chwaer, sef Mrs. Charles Ashton, yn byw yn Boulder, Colorado, a Mrs. Pritchard, oedd yn chwaer yn nghyfraith, yn Utica, New York. Lluddiwyd y ddwy i fod yn bresenol yn yr angladd.
Cydymdeimlir a'r oll ohonynt yn y brofedigaeth, ac eiddunir iddynt lawer o nerth i ymgynal odditani. Un mab, sef Wm. D., oedd adref gyda'i fam, a bydd ef yn fwy amddifad ar un olwg na'r llall, gan fod Newton, sydd yn athraw llwyddianus yn-Valparaiso, Indiana, yn briod, a chanddo gartref cysurus o'i eiddo ei hun.
Duw'r fam fo'n Dduw i'r meibion, a'i ysbryd yn arweinydd sicr iddynt ar lwybr bywyd.
F. T. R.