MR. EDWARD PARRY. HANOVER, LUZERNE COUNTY, PENNSYLVIA.
Boreu dydd Mawrth. Rhagfyr 8fed, cyfarfyddodd Edward Parry. North Pulton Street, a'i ddiwedd trwy ddamwain ddifrifol tra wrth ei orchwvl yn y gwaith glo.Aeth o'r ty yn llon ac iach yn gynar yn y boreu, ond cyn 10 o'r gloch daeth y newydd trist ei fod wedi ei ladd yn y fan heb fynyd o rybudd, trwy i'r nen ddod i lawr arno.
Gadawodd weddw ieuanc a thri o blant mewn galar a cholled fawr am briod a thad tyner a gofalus, maent fel wedi ymgolli yn y brofedigaeth chwerw.
Daeth y teulu i'r lle hwn oddentu tair blynedd yn ol o Slatingten, Pennsylvnania. Chwarelwr oedd y brawd wrth ei alwedigaeth ond trwy fod y fasnach lechi yn hynod farwaidd daeth i weithio i'r glo ac yr oedd yn weithiwr da a diwyd, a phan wedi cefnu y gwaethaf a dechreu gwawrio arnynt mewn lle dyeithr, dyma yr alwad sydyn i'r penteulu, a hyny ar haner magu y plant bach, efe yn yr oed ran cynar o 39 mlwydd oed. Nerth gaffont i ddal y brofedigaeth lem.
Genedigol ydoedd o ardal Bethesda, Gogledd Cymru, ac yn fab i'r diweddar William Parry a'i briod arferent fyw yn Llidiart Gwenydd; daethant yno o dueddau Tregarth, os iawn y cofiaf; ei briod yn ferch i'r ddiweddar Mary Ann, merch R. Griffith, Cilfodan Farm, a'i phriod William Thomas; collodd ei mam pan yn eneth fach a magwyd hi gan ei modryb Sarah, chwaer ei mam, newydd am farwolaeth yr hon oedd Mrs. Parry wedi dderbyn.
Cofus genyf am deulu lluosog Cilfodan ond erhyn hyn maent wedi myned yn bur iach, dim ond dau fab ac un ferch yn ol. Wel, cofied y rhai hyny am eu nith a'i phlant bach wedi ei gadael yn unig a digefn yn mhell o'i gwlad enedigol.
Cafodd y brawd angladd lluosog a pharchus, nifer fawr o'r hen ardal wedi dod o'r holl gylchoedd i dalu y gymwynas olaf iddo ac i ddangos eu cydymdeimlad a'r weddw a'r plant bach.
Y Parch. R. R. Davis, gweinidog y T. C.. yn gweinyddu yn y ty ac ar lan y bedd yn mynwent Hanover Green yn hynod effeithiol a theimladwy i'r amgylchiad pruddaidd ac annysgwyliadwy.
Gan Mair Llechid.
Y Drych ~ Ionawr 7fed 1915.
MR. EDWARD PARRY. HANOVER, LUZERNE COUNTY, PENNSYLVIA.
Edward Parry met a tragic death at the Smith colliery on North Pennsylvania avenue this morning when he was caught by a fall of rock from the roof.It is reported that he had set off a blast and when he went back to his chamber a portion of the roof which became loosened dropped on him burying him beneath it. When his body was recovered it was horribly mangled.
Undertaker Thomas took charge of the remains. He resided on Fulton street.
Find a Grave ~ Wilkes-Barre Record, 8th December 1915.
MR. EDWARD PARRY. HANOVER, LUZERNE COUNTY, PENNSYLVIA.
The funeral of Edward Parry, who lost his life in a fall of rock in the Smith Colliery on Tuesday, was held from his late home, 80 Fulton Street this afternoon at 2:30 o'clock.Services were conducted at the home, and interment was in Hanover Green Cemetery.