MR. WILLIAM B. PARRY. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Colled i Gymry a Chymreigiaeth dinas Utica oedd marwolaeth William B. Parry, un o'i masnachwyr mwyaf adnabyddus ac anrhydeddus, yr hyn a gymerodd le brydnawn Sadwrn yn ei gartref, 12 Seymour Avenue. Yr oedd mewn iechyd brau er's rhai misoedd, a chyfyngwyd ef i'w gartref am rai wythnosau, a pharodd y newydd am ei ymadawiad alar cyffredinol yn mhlith ei genedl a'r Americaniaid, gan ei fod yn gymeriad amlwg yn y ddinas er's llawer o flynyddau.Ganwyd Mr. Parry yn Nolgellau, sir Feirionydd, Gogledd Cymru, Mawrth 3ydd, 1848, a derbyniodd ei addysg yn ysgolion yr Hen Wlad.
Hydref, 1867, ymfudodd i'r wlad hon gan ymsefydlu yn Utica, a'r gauaf hwnw aeth i'r Utica Business College a gedwid gan C. A. Walworth. Aeth i wasanaeth y masnachwyr J. E. Roberts a'i gwmni, y pryd hwnw ar gongl Genesee a Broad ac yn delio mewn nwyddau haiarn. Arosodd yno hyd 1872, pan yr aeth i Chicago, ac i Minnesota, a bu yno yn ngwasanaeth y Proff. Eames o New York, daearegydd y dalaeth, ar ymchwil ddaearegol, a chafodd ychydig brofiad o'r bywyd Indiaidd. Yr hydref hwnw teithiodd Mr. Parry gryn lawer drwy y i Gorllewin pell. Ymwelodd a Cheyenne, ac aeth ar draws y wlad mewn cerbydau mor bell a Denver, ac oddi yno i Central City a Black Hawk, lle yr arosodd am flwyddyn a haner.
Dychwelodd i Utica yn 1871, ac aeth fel aml i Gymro arall i wasanaeth yr Utica State Hospital, ond yn fuan dychwelodd i wasanaeth J. E. Roberts a'i Gwmni, ac arosodd gyda hwy fel gwerthwr hyd 18S1. Yn fuan, cymerwyd ef i fewn i'r cwmni. Bu Mr. Parry yn aelod o'r cwmni hyd 1898, pan yr aeth i fasnach ei hun ar gongl Liberty a Seneca Street, gan ddelio mewn amrywiaeth o nwyddau haiarn, offer amaethol, a.y., ac aeth i'r drafodaeth wneuthurol hefyd gyda thawddfa a gweithfa ar heol Catherine yn agos i John, ac adwaenid y drafodaeth fel y Parry Company, dan lywyddiaeth Mr. Parry.
Yr oedd ef yn amlwg fel dinesydd, yn aelod o'r Commercial Traveler's Mutual Accident Association, am l7 o flynyddau yn aelod o fwrdd y rheolwyr. Yr oedd hefyd yn aelod o Faxton F. and A. M., a chymdeithasau eraill, ac yn Iforydd ac aelod o Gyfrinfa Goronwy. Yr oedd yn aelod o'r Cymreigyddion, ac yn llywydd am dair blynedd, ac yn gefnogwr pybyr o'r Eisteddfod.
Yr oedd iddo adnabyddiaeth eang, ac enw da fel masnachwr diwyd ac union, ac ymwelodd a'i berthynasau yn Nghymru bump o weithiau yn ystod y 28 mlynedd diweddaf. Yr oedd yn Werinwr annibynol, ac yn aelod o eglwys Moriah.
Gedy weddw, gynt Miss Sarah Reese, a phedwar o feibion, J. William: Fred B.; a H. Barrow; ac un ferch, Miss Katherine B.; pedwar o wyrion; dau frawd, y Parch. Jonathan Parry, Burnley, Lloegr; Hugh Parry a chwaer, Mrs. Jane Parry Jones, sir Feirionydd.
Cymerodd yr angladd le ddydd Mawrth, y gwasanaeth yn y cartref am 2:30, y Parch. D. M. Richards yn gweinyddu. Gwasanaethwyd yn gerddorol gan y pedwarawd: Miss Anna Hughes, David Jones, J. Quincy Hughes a J. Griffith Jones, yn deimladwy; Miss Margaret Hughes yn cyfeilio.
Yr elor-gludwyr oeddynt, Griffith Griffiths, J. Quincy Hughes, John O. Thomas. T. Solomon Griffiths, Pierce Jones a F. G. Spink. Aed a'r gweddillion i fynwent Forest Hill.