MISS. MAGGIE PRITCHARD. PHILIDELPHIA, PENNSYLVIA.
Dydd Mawrth. cyn y Nadolig, derbyniais gerdyn oddiwrth David G. Pritchard, Wind Gap, Pennsylvania, yn ein hysbysu o farwolaeth a chladdedigaeth ei nith, Miss Maggie Pritchard.Yr oeddym ni yma yn nghyd a Owen Jones (Blaen Cae) yn teimlo yn hynod ddrwg na fuasem wedi cael ein hysbysu yngynt o ddiwrnod, fel y gallem gael myned yno i dalu y gymwynas olaf o barch i'r ymadawedig. Diolch, er hyny, i Mr. Pritchard am ein hysbysu.
Nos Lun cyn hyny, yr oeddwn yn ysgrifenu gair ati, a hwnw yn myned oddi yma y dydd canlynol, ac yn cyraedd Philadelphia ddiwrnod ei hangladd, yn dymuno iddi "Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda a llawer o honynt," ond bychan oeddym yn ei feddwl fod Magi wedi tewi yn yr angeu, gan nad oeddym wedi clywed dim am ei gwaeledd.
Dwy flynedd i'r Nadolig hwn yr oedd hi yma gyda ni, ac yn North Poultney, Vermont gyda'i modryb oedd yn fyw y pryd hyny ond hithau erbyn hyn wedi myned i ffordd yr holl ddaear, sef Mr. a Mrs John Hughes. Yr oedd Miss Pritchard a fy mhriod wedi bod yn gyfeiliion agos o'u babandod hyd yn awr, pan oeddyn yn cael eu dwyn i fyny yn yr un pentref yn Nghymru, sef Ebenezer, Arfon, a ergyd drom iawn iddi yw ei marwolaeth.
Gan mai yn gweini yr oedd Miss Pritchard yn Philadelphia, nid oedd ganddi berthynasau yno o gwbwl, ond mae yn ddiameu genyf fod ganddi lawer iawn o gyfeillion yno, a bod y rhai hyny wedi gwneyd eu goreu iddi yn ei dyddiau diweddaf, canys yr oedd yn un hawdd iawn i'w charu, yr oedd yn un hynod o galon dyner at bawb, ac ni byddai ganddi ddim drwg i'w ddweyd am neb. Yr oedd bob amser yn ei llythyrau a'i hymddyddanion yn codi yr eglwys Gymreig yn y lle i fyny, ac yr oedd yn dda iawn deall oddiwrth y cerdyn a dderhyniais fod swyddogion yr eglwys Gymreig yr Philadelphia wedi cymeryd gofal o'i chorff, ac wedi myned ag ef i gladdfa ei theulu yn West Bangor, Pennsylvania.
Daeth Miss Pritchard i'r wlad hon gyda'i modryb tua 19 mlynedd yn ol i West Bangor. Nid wyf yn gwybod ei hoedran yn iawn, ond yr oedd yn rhywle o gwmpas 45 mlwydd oed. Collodd ei mam pan oedd hi yn bur ieuanc. a bu gorfod arni edrych ar ol y gweddill o'r plant, gan mai hi oedd yr hynaf o'r genethod. Merch i Mr. a Mrs. Robert G. Pritchard. Ebenezer, Arfon. ydoedd. Mae iddi ddau frawd, ac un chwaer yno heddyw, sef Robert, Owen a Grace, a Lizzie ei chwaer yn Wilkes-Barre, Pennsylvania, gyda'r rhai y mae fy nghydumdeimlad llwyraf, ar ol colli un oedd anwyl iawn ganddynt, a throsof fy hun a'i theulu diolchwn i bawb fu yn garedig iddi yn ei dyddiau diweddaf, ac hefyd i'r Parch. Mr. Williams a swyddogion yr eglwys Gymreig yn Philadelphia, Pennsylvania.
Carwn yn fawr gael gair oddiwrth Mr. Evan Thomas, Philadelphia, yn egluro i ni yr holl helynt am y chwaer uchod: fel yr wyf yn deall ei fod ef a Mrs. Thomas wedi bod yn hynod o garedig wrth yr ymadawedig.
T. L. Williams, Granville, New York.