MR. OWEN RICHARD PRITCHARD. CASTLETON, RUTLAND COUNTY, VERMONT.

Drwg genym orfod cofnodi dygwyddiad pruddaidd. Tuallan ychydig i Herkimer prydnawn Sadwrn diweddaf, canfyddwyd corff yn gorwedd yn ymyl ffos; y brawd anffodus oedd Owen R. Pritchard, 408 Folts Street, Herkimer.

Ganwyd ef yn Nghymru, daeth i Herkimer flwyddyn yn ol o Vermont, ac yr oedd yn 67 mlwydd oed. Nis gwyddom hyd yn hyn pa fodd y cyfarfu a'i ddiwedd.

Gadawodd i alaru ar ei ol ddau fab, Owen a John E., Herkimer; un ferch, Gwendoline, Herkimer; pedair chwaer, Mrs. E. T. Roberts, Vermont; Mrs. J. M. Roberts, Poultney, Vermont; Mrs. R. Griffiths, Fairhaven, Vermont, a Miss E. Pritchard, Troy, New York.

Derbynied y teulu galarus ein cydymdeimlad yn eu profedigaeth lem.
Goronwy.

Y Drych ~ Gorphennaf 30ain 1914.