MR. WILLIAM PRITCHARD. CAMBRIA, WISCONSIN.
Yn nhy ei fab, Mr. Edward Pritchard, Cambria, Wisconsin, bu farw William Pritchard, Ebrill 3ydd, 1914.Ganwyd ef yn Cynwyd, Gogledd Cymru. Enwau ei rieni ydoedd William a Jane Pritchard.
Collodd ei dad pan yn flwydd a haner oed, a'i fam pam yn naw oed. Yr oedd iddo chwaer, yr hon gydag yntau, a gartrefent wedi marwolaeth eu rhieni, gydag ewythr yn Cynfal.
Pan yn bedair ar hugain oed priododd a Miss Jane Roberts, Tai Teg, Cynfal, a buont yn byw yn mhersondy Cynfal am amser. Ganwyd iddynt yno dri o feibion, sef William, John ac Edward.
Yn y flwyddyn 1869, daeth y tad i'r America i gylchoedd Cambria, Wisconsin, ac yn mhen ychydig fisoedd, aeth yn ol i Gymru i gyrchu y teulu drosodd. Cyraeddasant Cambria, Wisconsin, yn Mawrth 1870, a sefydlasant yn mhen ysbaid mewn lle o'r enw Dolwenith, lle y ganwyd Ann, Jane a William, symudasant oddi yno i Biart. Yn y flwyddyn 1875, sefydlasant ar fferm o'r enw Pentre Bach.
Mawrth 9fed, 1911, bu farw Mrs. Pritchard gan adael ei phriod a phump o blant i alaru ar ei hol. Yr oedd ei cholli yn ergyd drom i William Pritchard yn ei hen ddyddiau. Wedi ei cholli hi, gwnai ei gartref gyda'r plant, bu am ysbaid yn Randolph, yna daeth i Cambria, lle y bu farw fel y crybwyllwyd.
Gwr tawel a diddichell ydoedd; cymydog caredig a fawr hoffid gan bawb a'i hadwaenai. Cynaliwyd gwasanaeth angladdol yn addoldy y M. C. Ebrill 6ed, a daearwyd y rhan oedd farwol yn mynwent Cambria, gerllaw gweddillion ei anwyl briod.