MR. EBENEZER ROBERTS. CLEVELAND, OHIO.
MARWOLAETH CYMRO OEDRANUS YN CLEVELAND, OHIO.
Dydd Llun, Rhagfyr 14eg, 1914, bu farw yr hen bererin duwiol Ebenezer Roberts, yn nhy ei ferch, Mrs. Sarah Walford, Cleveland, Ohio.Ganwyd ef yn y pentref bychan a elwir Sarnau, ychydig filldiroedd o'r Bala, Gogledd Cymru, Mehefin 4ydd, 1820. Enwau ei rieni ydoedd John ac Elizabeth Roberts. Yr oedd ei fam yn chwaer i Roberts y Telynwr, Plas Rug, ger Corwen, Gogledd Cymru, yr hwn oedd yn adnabyddus i lu o bobl siroedd Meirion a Dinbych, ar gyfrif ei fedrusrwydd fel telynwr.
Yr oedd Eben Roberts yn un o ddeg o blant, chwech o frodyr a phedair o chwiorydd. Brawd iddo ydoedd John Roberts, awdwr y don "Alexander," a elwir hefyd "Talybont." Pan yn bur ieuanc daeth gyda'i frodyr i ardal Penycae, Ruabon, i weithio gyda'r amaethwyr. Bu hefyd yn gweithio oddeutu y pyllau glo, ac am bum mlynedd ar hugain mewn gwaith zinc yn yr ardal hono.
Yn 1873, ymfudodd ef a'i deulu i America at ei fab Joseph T. Roberts Thomastown, Ohio. Yn 1878, symudodd oddi yno i Cleveland, Ohio, lle y terfynodd ei yrfa ddaearol ar y 14eg o Ragfyr diweddaf.
Claddwyd ei ran farwol yn nghladdfa. Lake View, Cleveland, Rhagfyr 16eg. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parch. W. W. Bustard, D. D., gweinidog eglwys Fedyddiedig Euclid Avenue, lle y bu yn aelod ffyddlon am 24 o flynyddoedd.
"Daw o'r bedd a'i wedd yn wych-fel y wawr
Nefol urdd ddysgleirwych;
A i'r man mae'r cor mwynwych
Rhiniau gwlad yr arian glych."
Credwyf mai gyda'r Annibynwyr yn LlanuwchlIyn, G. C., y magwyd ef yn grefyddol. Annibynwr oedd ei dad a'i fam yn perthyn i'r Methodistiaid. Yr oedd yn gefnder i'r diweddar Barch. Robert Thomas (Ap Fychan). Yr wyf yn ei golio yn dda pan oeddwn yn hogyn yn un o'r rhai ffyddlonaf gyda'r Methodistiaid. Bachgen ieuanc oeddwn i pan y gadawodd ef yr Hen Wlad, ond y mae y cof sydd genyf am dano ef a'r teulu eu bod yn un o'r teuluoedd parchusaf yn yr holl wlad. "Gair da iddo gan bawb a chan y gwirionedd ei hun."
Pedair blynedd ar ddeg ar hugain yn ol ymunodd ag eglwys y Bedyddwyr Euclid Avenue, Cleveland. Bedyddiwyd ef ar broffes o'i ffydd yn y Gwaredwr, a bu yn ffyddlon i'r broffes hono hyd y diwedd. Edmygid ef gan yr holl aelodau ar gyfrif ei sel a'i weithgarwch hyd eithaf ei allu gyda'r achos da. Yr oedd yn bur gyfarwydd a Mr. John D. Rockefeller fel aelod o'r un eglwys i ag yntau, ac edrychai brenin yr olew arno fel un o'r gwir Israel. Wedi ei farw, anfonodd lythyr o gydymdeimlad a'r plant yn eu trallod ar ol tad mor dda.
Ni chafodd ein brawd fanteision addysg foreu oes, ond trwy ymdrech bersonol daeth yn alluog, i ddarllen Cymraeg a Seisneg. Ei hoff lyfr ydoedd "llyfr y llyfrau." O'r llyfr hwn y tynodd gysuron penaf ei oes. Dysgodd ¡ ganoedd o benodau ar ei gof, a'i hoff waith yn ei henaint ydoedd adrodd rhanau o'r gyfrol ddwyfol ag oeddent wedi bod yn ddefnydd cysur iddo ar hyd ei oes faith. Yr oedd yn hoff iawn o farddoniaeth, ac yn gyfarwydd iawn a gweithiau hen feirdd enwog ei genedl. Carolau Dafydd Ddu Eryri yn Nghorph y Gainc a ddysgodd ac a'i canodd lawer o weithiau gyda hwyl a blas neillduol.
Hoff ganddo ydoedd adrodd hen ganeuon a ddysgwyd iddo gan ei fam dduwiol ar yr aelwyd gartref. Yr oedd ein brawd yn feddianol ar sefydlogrwydd crefyddol. Nid oedd yn bob peth heddyw, a dim yfory, ond gwastad yn ei ffyrdd, ac nid yn hynod o boethlyd un amser, ond araf a sicr; nid fel y fellten yn sydyn, ond fel tywyniad yr haul er dechreu yn fychan, eto goleuo fwy fwy hyd ei berffeithrwydd ganol dydd. Yr oedd yn ddi-absen iawn am eraill, ni charai ddweyd na gwrando neb yn absenu; byddai bob amser yn barotach i faddeu a chynal breichiau yn hytrach na chynorthwyo yr hystungwr.
Yr oedd yn ffyddlon i'w Feistr. Dyma y peth goreu a ellir ddweyd am grefyddwr; dyma'r gem gloewaf a dysgleiriaf yn ei goron; os yn amddifad o hwn, er yn ddeallus a doniol, bydd yn ddiffygiol ac annghymeradwy, ac fe gyll y goron yn y diwedd. Ond heb ymhelaethu, rhaid dweyd am dano fel y dywedwyd am eraill, ac y dywedir am danom ninau yn fuan, "Efe a fu farw."
Bu farw ei briod yn Ionawr, 1896. Y mae yn aros yn yr anial yn galaru ar ol tad da a thyner, un mab a dwy ferch. Y mab ydyw y bardd a'r llenor adnabyddus Joseph Trefryn Roberts, Mrs. Jane Davies, gweddw y diweddar Barch. Isaiah Davies, gynt o Hyde Park, Pennsylvania, a Mrs. Sarah Walford, gyda'r hon y bu efe byw am flynyddau wedi marw ei briod, yr hon a ymddygodd yn deilwng o ferch dyner o'i thad. Mab i Joseph T. Roberts ydyw Proff. William Roberts, organydd eglwys Fedyddiedig Euclid Avenue, Cleveland.
Terfynwn ein nodion am yr hen gymrawd Eben Roberts mewn geiriau a gredwn sydd yn wir am dano ef:
"In heaven above with Christ the king
To live and ever be,
To wear the crown and sweetly ring
Hosanna in seraffic glee;
There, all His saints shall Christ remove,
Bound in the golden band of love."
Gan y Parch. J. T. Lloyd.