MRS. JANE ROBERTS. MIDDLE GRANVILLE, WASHINGTON COUNTY, NEW YORK.
AMGYLCHIAD DIFRIFOL YN GRANVILLE, NEW YORK.
Boreu dydd Mawrth, Mawrth y 3ydd, brawychwyd yr holl ardal, gan y newydd fod Jane, priod y brawd Thomas H. Roberts (Sinc) wedi taflu ei hun i'r afon, sef afon fawr y Mettowee, yr hon sydd yn rhedeg trwy y pentref hwn. Aeth y chwaer o'r ty, ac oddiwrth ei phriod (yr hwn oedd adref, am y diwrnod am nad oedd yn teimlo yn dda) ar hyd llwybr cul sydd yn arwain oddiwrth eu ty gyda glan yr afon i'r pentref.Gan ei bod wedi myned y ffordd hon ganwaith o'r blaen, ni wnaeth neb ddim sylw o honi, ond pan yr oedd hi tua canol y llwybr, tynodd ei shawl a'i het a thaflodd hwynt ar lawr, ac aeth at ei haner bron i'r dwfr, ac ymaith ar y rhew, a cherddodd ar hyd y rhew am tua 75 i 100 troedfedd, ac yna taflodd ei hun i'r dwfr yr hwn oedd yn rhedeg yn wyllt iawn ar y pryd, ac yna aeth i lawr ac o dan bont y pentref ac i'r pwll sydd yr ochr isaf i'r bont, ac o dan y rhew sydd yn y pwll hwn.
Ceisiodd amryw oedd yn edrych arni yn taflu ei hun i'r afon, gael gafael arni cyn iddi fyned o dan y rhew, ond er pob ymgais, methu a wnaethant.
Rhoddodd ein trengholydd, Dr. Davies, amryw o ddynion ar waith i chwilio am y corff, yna aeth yr un criw ati dranoeth, a thradwy, yna prydnawn dydd lau aeth criw mawr o honom o'r chwarel i chwilio, ond i ddim pwrpas. Ni fum erioed mewn lle mor ddigalon yn chwilio am gorff; er nad yw ond afon, buasai yn llawer iawn gwell genyf chwilio yn llyn Llanberis na'r lle hwn, y mae yn annichonadwy cael y corff oddi yno, trwy fod y rhew o ddwy droedfedd i lathen o dew, a dim lle i'w symud oddi yno i unman, ac mae yn debyg y bydd yr afon yn tori gyda hyn yn awr, a'r llifogydd mawrion yn dyfod, ac aiff a hi i ffwrdd, efallai nas gellir ei chael o gwbl, ond gobeithio y deuir o hyd iddi cyn hyny, er mwyn cael ei chladdu, a thawelwch meddwl i'w phriod a'i merch fach Mamie, a'i hen fam oedranus a'i brawd a'i chwiorydd yn Nghymru.
Merch i Mr. a Mrs. Evan Jones (Cantwr), Caradog Place, Ebenezer, Arfon, ydoedd yr ymadawedig wedi ei magu ar aelwyd grefyddol, ac yr oedd fel ei diweddar dad yn hyddysg iawn yn yr Ysgrythyr, ac yr oedd hyny, gyda gwendid wedi effeithio i raddau pell iawn ar ei synwyrau, wedi darllen ac astudio gormod i'r nerth oedd ganddi; yr oedd ar adegau yn hynod o ddrwg, ond byddai yn well wedyn am ysbaid, ac yr oedd yn edrych ac yn teimlo yn bur dda cyn rhoddi terfyn ar ei heinioes.
Daeth i'r wlad hon tua deg mlynedd yn ol, gan aros yn Slatington, aethant oddi yno i Arvonia, Virginia, a daethant o'r lle diweddaf yma mis Mai diweddaf. Aethpwyd a hi i ysbyty Albany yn Hydref diweddaf, ond adref oedd raid iddi gael dod.
Tad yr amddifad a Barnwr y gweddwon gysuro y priod a'r ferch fach yn eu galar a'u tristwch, a hyderaf y bydd i'r holl deulu gael nerth gan Dduw eu Tad i ddal y brofedigaeth lem hon eto.
Mae y brawd yn dymuno arnaf ddiolch i bawb am eu cydymdeimlad ag ef yn y brofedigaeth lem hon a'i cyfarfyddodd mor ddisymwth, ac i bawb a fu yn gweithio er ceisio dod o hyd i'r corff.
Duw a dalo i chwi oll am hyny.
T. L. W.
Diweddarach.
Da iawn genyf allu dweyd heddyw fod corff Mrs. Roberts wedi ei gael er prydnawn ddoe (dydd Sul). Aeth amryw yno dydd Sadwrn i falu y rhew a'i dynu i'r lan; yr un modd ddydd Sul, yr oedd yno tua haner cant o Gymry yno yn gweithio yn galed, yn nghyd ag amryw o geffylau i dynu y rhew i'r lan.
Bydd y gladdedigaeth yn cymeryd lle am 2 o'r gloch prydnawn dydd Mawrth (yfory) yn Middle Granville, y gwasanaeth yn nghapel Jerusalem A. Yr oedd yr ymadawedig yn 42 mlwydd oed.