MRS. MARY ANN ROBERTS. NELSON, NEW YORK.

Ebrill yr 16eg, ar ol cystudd maith.

Bu Mrs. Wood yn aelod ffyddlon yn eglwys Peniel er pan oedd yn ddeunaw oed, yn mynychu y moddion yn gyson o bellder ffordd, ac anhawdd iawn ar lawer amser i'w drafaelio.

Ganwyd hi Awst y 5ed, 1835, yn Cwrt Pennal, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, a daeth i'r wlad hon pan yn 16eg oed i Utica; yna i MorrisviLle am beth amser, ac yna daeth i Erieville, lle y bu y gweddill o'i hoes.

Unwyd hi mewn glan briodas gyda John Wood, yr hwn fu Ifarw 12eg mlynedd yn ol. Gadawa i alaru eu colled bedwar o blant, sef Mrs. Palmer Brown, Mrs. R. E. Jones, a John (gyda'r hwn y gwnaeth ei chartref ar ol marwolaeth ei phriod), Erieville, a Richard, Maulius, a llawer o berthynasau eraill.

Claddwyd hi y dydd Sadwrn canlynol wrth ymyl ei phriod yn mynwent Peniel, y Parch. L. F. Kelsey, gweinidog yr M. E. yn Erieville, yn gwasanaethu, gan fod eglwys Peniel heb yr un gweinidog yn bresenol. Cafodd angladd parchus, yr arch wedi ei gorchuddio a blodau, yn dangos y parch a'r edmygedd oedd i'r chwaer gan bawb.

Duw y nef a fyddo yn nodded i'r plant oll yw ein dymuniad.

Y Drych ~ Mai 7fed 1914.