MRS. OLWEN L. ROBERTS. ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Gynt o Gaernarfon, Gogledd Cymru; wedi oes fer o naw mis yn America.

Peth cydnaws iawn a natur dyn ydyw adgofio am bersonau fu'n dde genym am danynt, ac er nad ydynt i'w gweled ar y ddaear yn awr, eto i gyd, nis gallwn lai nag achlesu teimladau tyner tuag atynt bob amser yn yr adgof am danynt.

Gwneir coffadwriaeth pob dyn yn fendigedig yn ein golwg i'r graddau y byddom yn ymwybodol o'r rhinweddau a addunent eu cymeriadau. Yr oedd purdeb ymarweddiad yn ein hanwyl chwaer, yr oedd yn ofalus rhag geiriau segur, rhag athrodi na difenwi neb. Gwnaeth ei llwybrau yn uniawn i'w thraed rhag peri y cloff allan o'r ffordd. Yr oedd o dymer serchiadaol, mae hyn yn harddwch mawr i Gristion. Dyma esiamipl y Gwaredwr mawr, "Canys addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon."

Ganwyd Mrs. Roberts yn Chwilog, sir Arfon, yn y flwyddyn 1885. Merch ydoedd i Owen ac Elizabeth Pridhard; mab Penarth Bach ydoedd ei thad, a'i mam yn ferch Gwyndy, Abererch. Pan nad oedd Olwen ond ieuanc iawn cafodd ei thad ei ladd ar y rheilffordd yn ymyl Chwilog, ac yn mhen amser symudodd y teulu i fyw i Penygroes, ac oddi yno i Gaernarfon.

Yn Caernarfon yr aeth Olwen i undeb priodasol a Mr. Owen H. Roberts; ni fu ei bywyd priodasol hapus ond tymor byr iawn; cafodd Mr. Roberts, ei phriod, ei ladd yn amser urddiad Tywysog Cymru, drwy syrthio o ben un o'r gwageni, a thua naw mis yn ol, daeth hi trosodd i'r wlad hon yn nghwmni yr ysgrifenydd. Teimlaf fy mod dan dipyn o anfanteision i ysgrifenu nemawr am dani, gan nad oedd genyf gymaint o adnabyddiaeth bersonol o honi ac y dymunwn fod genyf. Er fy mod yn dra chyfarwydd a hi trwy hanes, ychydig o'i chymdeithas a gefais.

Yr oedd genym syniad uchel am dani ei bod o stamp iawn. Pan ddaeth i'r dref hon, aeth i wasanaethu fel nyrs yn y Rome Infirmary am gyfnod, yna symudodd i wneyd yr un gorchwyl i Rome Custodial Asylum, lle yr oedd yn gwasanaethu pan y cymerwyd hi yn wael o'r typhoid fever y Sul, Gorphenaf 28ain, a bu farw yn Rome Hospital boreu Mawrth, Awst 4ydd, ar ol cystudd byr ond caled iawn, ac fe gafodd bob peth allasai ei pherthynasau a llu eraill ei wneyd iddi, ond aeth angeu yn drech na hwy oll.

Cymerwyd ei chorff i dy ei chyfnither, Mr. a Mrs. W. P. Williams, Vine Place, lle y cynaliwyd gwasanaetlh cyn cychwyn i'r capel Methodistiaid gan ei fod yn fwy cyfleus, pryd y cymerwyd rhan yno gan Dr. R. T. Roberts a'r Parch. R. Eifion Jones. Yr arch-gludwyr oeddynt Evan V. Jones a Thomas Jones ei chelfnder, R. S. Jones a I. King. Yr oedd wedi enill llu o gyfeillion tra bu yma y rhai sy'n teimlo colled ar ei hol, ac yr oedd hyny i'w weled yn amlwg oddiwrth y blodau hardd oedd yn gorchuddio ei harch ddydd yr angladd.

Gedy ferch fach ar ei hol yn yr Hen Wlad, Dolly Lloyd; ei mam, Mrs. Prichard, Caernarfon; chwiorydd, Mrs. Capt. Jones, Pwllheli; Morfudd, District Nurse, Talycafn; Angharad, district nurse yn Manchester, a Susie Prichard gartref gyda'i mam.

Dymunir ar bapyrau Caernarfon gofnodi yr uchod.

Y Drych ~ Awst 20fed, 1914.