MR. PIERCE E. ROBERTS. WHEAT RIDGE, JEFFERSON COUNTY, COLORADO.

Yn y "Drych" am Mehefin 18fed, gwnaed crybwylliad am ddychweliad Pierce E. Roberts yn ol o Oakland, California, a'n bod yn gobeithio y byddai yn alluog i aros yma yn barhaol. Drwg genym hysbysu mai fel arall y bu, canys daeth gwys oddiwrth awdurdod uwch na threfniant dynol, yn ei alw i breswylio i wlad sydd well na dewis-leoedd y ddaear.

Nid oedd ein brawd wedi mwynhau iechyd da er's blynyddau, er iddo wneyd ymdrech fawr i wella yn Colorado a California. Ymddengys fod Oakland yn dygymod a'i gyfansoddiad yn well na Denver. Pan ddaeth yn ol y tro hwn, yr oedd yn ymddangos yn well nag arferol. Yr oedd yn bresenol yn yr Eisteddfod Mai 30ain, ac yn yr oedfa yn y capel nos dranoeth, ond daeth cyfnewidiad sydyn ddechreu yr wythnos, ac erbyn dydd Sadwrn, Mehefin 6ed, daeth yr awr olaf ar y ddaear mewn poen a blinder, a mynediad helaeth, gobeithiwn, i fuchedd newydd a chymdeithas well, lle nad oes claf na chlwyfus yn eu plith.

Mae ymadawiad Pierce Roberts wedi peri hiraeth yn mhlith lluaws o'i gyfeillion yn Denver, pa rai oeddynt yn ei hoffi fel dyn tawel, diymhongar, a charedig, heblaw ei fod bob amser yn ffyddlawn yn ei ddyledswyddau cymdeithasol a chrefyddol. Mae cydymdeimlad pawb a'i weddw a'i ddau fab, a'i ferch, yn eu galar dwys, ar ol priod tyner a thad gofalus a darbodus.

Bydd yn chwith iawn gan ei frawd adnabyddus Edward C. Roberts, Dolwyddelen, Arfon, glywed am y newydd prudd o farwolaeth ei anwyl frawd. Dydd Iau, Mehefin 11eg, oedd dydd y gladdedigaeth yn mynwent brydferth Crown Hill, lle y mae amryw o'n cydgenedl yn gorphwys yn barod erbyn dydd mawr y cyfrif!

Yr oedd trefniant yr angladd o dan nawdd Urdd yr Odyddion, a'r hon yr oedd ein brawd yn gyflawn aelod, ac hefyd yn aelod o eglwys y Cymry yn Denver. Daeth torf o'r Cymry ynghyd i'r gwasanaeth yn ystafelloedd Ohlinger, pan y gweinyddwyd gan y Parch. H. P. Morgan, yr hwn a draddododd anerchiad rhagorol a tharawiadol i goffadwriaeth yr ymadawedig ar y geiriau yn Matt. 24: 44, "Am hyny byddwch chwithau barod, canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y Dyn."

Datganodd ei hen gyfaill Dd. J. Reynolds alaw swynol a phriodol iawn ar y geiriau, "Hide myself in Thee," ac ymunodd y Cymry i ganu hoff emynau ein diweddar frawd, sef "0 Fryniau Caersalem ceir gweled," a "Bydd myrdd o rhyfeddodau ar doriad boreu wawr." Peth hyfryd i'r Cymro yw ymadael a gwlad y ddaear yn swn melus a bendigedig yr hen emynau hvn, a chael y fraint o uno a'r chorus "Ar y lan brydferth draw!"

Naddwr ceryg ithfaen oedd Pierce E. Roberts, ac yn fedrus yn ei gelfyddyd. Bu yn gweithio wrth ei alwedigaeth yn Boston, Massechusetts, Troy, New York, a Barre, Vermont.

Yn y flwyddyn 1887 y daeth i Denver, ac yn 1889 yr ymbriododd a'r hon sydd wedi bod yn gydmares ffyddlawn iddo hyd y diwedd. Yn y fasnach o granite cutting bu Pierce Roberts mewn partneriaeth a John P. Jones nes i'w iechyd ballu yn 1906.

Yna rhoddodd ei gysylltiad masnachol i fyny yn Denver, ac a symudodd ef a'i deulu i Oakland, California, lle y sefydlodd mewn busnes y te a'r coffi, ac y buont yno am bum mlynedd. Gan nad oedd iechyd Mrs. Roberts yn caniatau, gorfu iddynt symud yn ol i Denver yn 1911, ac ar ol hyny, hyd yn ddiweddar, iddo werthu allan, yr oedd; mewn ffordd lwyddianus yn nglyn a'r te a'r coffi, ac yn adnabyddus a pharchus gan bawb o'i gwsmeriaid.
Oddiwrth Lewis Brycheiniog.

Y Drych ~ Gorphennaf 2ail 1914.