MR. ROBERT J. ROBERTS. SLATINGTON, LEHIGH COYNTY, PENNSYLVANIA.

Gorchwyl blin sydd genym i osod y gair "diweddar" o flaen enw y cyfaill ag sydd a'i ddarlun isod, sef y diweddar Robert J. Roberts, Fifth Street, o'r ardal hon, yr hwn a fu farw nos Sadwrn, Ebrill lleg, o ergyd o'r parlys. Yr oedd wedi bod yn glaf am oddeutu pythefnos o dan afaelion y grip, ond yr oedd wedi troi ar wella, ond er mawr siomedigaeth i'w deulu a'i luaws gyfeillion dyma gerbyd angeu yn dod heibio gan ei gymeryd i "ffordd yr holl ddaear."

Ganwyd yr ymadawedig yn Congl y Mynydd, Dinorwig, Gogledd Cymru, 64 mlynedd yn ol. Enwau ei rieni oeddynt Robert John a Mary Roberts. Daeth i'r wlad hon 42 mlynedd yn ol, gan sefydlu yn yr ardal hon, ac yma y bu fyw yn ystod yr holl amser.

Deugain mlynedd yn ol ymunodd mewn glan briodas a Jane Hughes, merch i Robert a Margaret Hughes, a ganwyd iddynt bedwar o blant, ond bu tri o'r plant farw yn eu babandod, sef Margaret, Idwal a Margaret, a bu farw y ferch arall Mary Ellen deg mlynedd yn ol, gan adael priod Thomas T. Jones ac un mab, Charles, i alaru ar ei hol. Gadawa ef i alaru ar ei ol ei briod, un brawd, Thomas Jones Roberts, Pen y Dyffryn, Dinorwig, Gogledd Cymru un chwaer, Ellen, priod Robert C. Jones, Wind Gap, Pennsylvania, a'r mab-yn-nghyfraith Thomas T. Jones ac un orwyr Charles Jones.

Cymerodd yr angladd le am ddau o'r gloch gyda gwasanaeth byr yn ei gartref clyd ar Fifth Street, ac yna yn mhellach yn nghapel y T. C., pryd y daeth tyrfa luosog yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i un a berohid yn fawr trwy yr holl ardal.

Gwasanaethwyd gan y Parch. John Williams, a rhoddwyd ef i orphwys hyd ganiad yr udgorn diweddaf yn mynwent Fairview.

Bu yr ymadawedig mewn cyaylltiad masnachol mewn rhai chwarelau yn yr ardal hon, a bu yn lled lwyddianus yn ei ymdrechion chwarelyddol. Yr oedd yn aelod ffyddlawn o eglwys Salem, T. C., a bu yn athraw ffyddlawn, gyda'r plant bach yn yr Ysgol Sul, ac yr oedd yn aelod gwelthgar o fwrdd yr ymddiriedolwyr, a bydd colled amlwg ar ei ol.

Yr oedd yn briod tyner a gofalus, yn gymeriad tawel a diymhongar, ac yn gyfaill caruaidd ac ymddiriedol. Chwith iawn ydyw genym ei golli o'n mysg, ond yr ydym yn credu fod ein colled ni o hono ef wedi troi yn elw tragwyddol iddo ef, oblegid yr ydym yn credu fod "ei fyr ysgafn gystudd wedi gweithredu tragwyddol bwys gogoniant iddo."

Nerth a gaffo ei briod a'r teulu oll i ddal y brofedigaeth chwerw hon.
Cyfaill.

Y Drych ~ Mai 14eg 1914.