MR. WILLIAM CADWALADER ROBERTS. WEST BANGOR, YORK COUNTY, PENNSYLVANIA.

Hefyd y mae genym y gorchwyl prudd o gofnodi hanes marwolaeth yr hen frawd anwyl a'ch gohebydd ffyddlawn o'r lle yma er's amser maith, Mr. W. C. Roberts. Ychydig feddyliem wrth ddarllen ei ysgrif yn y "Drych" wythnos neu ddwy yn ol, yn mha un yr oedd yn cydnabod cydnabyddiaeth fechan yr eglwys oedd mor agos at ei galon, wedi ei wneyd iddo fel arwydd o'u parch a'u gwerthfawrogiad o'i lafur yn eu plith, ychydig feddyliai ar y pryd mai hono fyddai ei ysgrif ddiweddaf i'r "Drych."

Chwith gorfod dweyd y diweddar William C. Roberts erbyn hyn. Bu farw boreu dydd Gwener, Tachwedd 27ain, yn 79 mlwyd oed.

Claddwyd ef Tachwedd 30ain, yn mynwent Slatville; gwasanaethwyd yn ei angladd gan ei weinidog, a'r hwn a edmygai mor fawr, y Parch. W. C. Rowlands.

Er mai byr fu ei gystudd diweddaf eto yr oedd yn amlwg fod ei babell glai yn dadfeilio er's tro, ac yr oedd ei brofiad, yn enwedig yn yr emynau a roddai allan i'w canu, yn dangos yn bur eglur ei fod yn ymwybodol nad oedd iddo fawr o ddyddiau ar y ddaear.

Ganwyd Mr. Roberts yn Corris, sir Feirionydd, Gogledd Cymru yn y flwyddyn 1835. Os nad wyf yn cam gymeryd, Garlleglwyd oedd enw'r ty lle ei ganwyd: yr wyf fel pe bawn yn gweled y lle o flaen fy llygaid yn awr.

Nid oes cof genyf am ei dad, ond y mae genyf gof am ei fam, ac er mai cof plentyn ydoedd, gadawodd argraff arnaf ei bod yn hen wraig hynod am ei duwioldeib a gwelir felly i'n gwrthrych gael magwraeth grefyddol dda.

Yn y flwyddyn 1856 daeth drosodd i'r wlad hon gan ymsefydlu yn West Bangor.

Yn y flwyddyn 1862, ymbriododd a Miss Ann Williams, pa un svdd wedi ei ragflaenu er's rhai blynyddoedd. Ganwyd iddynt 8 o blant, o ba rai y mae chwech yn aros: Robert, y mab hynaf yn Spokane, Washington, Mrs. David Chappel, yn byw yn Philadelphia, Mrs. Edward J. Jones, hithau newydd symud at ei phlant i Philadelphia; Garfield yn byw yn West Bangor; ac Evan a Margaret Ann gartref ac heb briodi.

Bu yr ymadawedig am beth amser yn gweithio yn Middle Granville a Slatington, ond yma y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Yn y flwyddyn 1890 etholwyd ef yn flaenor yn yr eglwys hon, pa swydd a lanwodd yn ffyddlon hyd y diwedd, a hyny yn aml yn ngwyneb llawer o anhawsderau. Hyd yn ddiweddar, efe oedd yn cyhoeddi ac yn ei ofal ef yr oedd elfenau y sacrament. Ni chai tywydd o ba natur bynag byth amddifadu. Mr. Roberts o foddion gras, ac os dygwyddai fod yn absenol, mawr fyddai'r holi, "Yn lle yr oedd William C. heddyw." Gwelir rhai mor gloff yn dod i foddion gras fel nad yw eu lle i'w deimlo yn wag, ond nid felly ein hanwyl frawd.

Cerddai yn agos i ddwy filldir bob dydd i'r chwarel, a gweithiai yn galed, canys gweithiwr caled ydoedd, a hyny ar ol cyraedd oedran mawr, ond ni chai blinder corff ei atal rhag dod i foddion gras. Yr oedd hefyd yn deyrngarol iawn i'r Cyfundeb Methodistiaid.

Er wedi treulio ei oes bron yn y wlad hon, gwyliai yn fanwl symudiadau y Cyfundeb yn Nghymru, ac yr oedd bob amser hyd y gallai yn barod i syrthio i mewn i'w trefniadau. Yr oedd hefyd yn ddarllenwr mawr wedi bod ar hyd ei oes, er na chymerodd ran amlwg mewn materion cymdeithasol a chrefyddol, eto i gyd cymerai ddyddordeb dwfn ynddynt, yn y wlad hon ac hefyd gwlad ei enedigaeth.

Yr oedd yn edmygwr mawr o Lloyd George a'r rhai sydd yn dal awenau y llywodraeth bresenol yn Mhrydain Fawr yn eu dwylaw. Ond er cymaint o ddyddordeb a gymerai yn y pethau hyn, yr oedd ei ddyddordeb yn mhethau yr Efengyl yn llawer mwy; wedi'r cyfan dyma oedd maes ei efrydfa ar hyd ei oes. Darllenodd lawer a cheisiodd ddod o hyd i'r goludoedd o wirioneddau sydd yn guddiedig yn nhrefn gras, a llwyddodd i raddau helaeth iawn, ac y mae heddvw yn "tragwyddol syllu ar y Person."

Yr oedd yn ei garu mor fawr ac y ceisiodd ei wasanaethu mor ffyddlon tra yma ar y llawr. Y mae heddyw yn ei weled Ef, "megys ag y mae." "Uwch aethau mae'n iach weithiau."

Heddwch i'w lwch hyd floedd yr archangel.
E. L.

Y Drych ~ Rhagfyr 10fed 1914.


MR. WILLIAM CADWALADER ROBERTS. WEST BANGOR, YORK COUNTY, PENNSYLVANIA.

Mr. William C. Roberts was born July, 1834. He came to America from Corris, Merionethshire in 1856, and reached West Bangor July the same year.

In July 25th, 1862, he was married to Miss Ann Williams of West Bangor. They had eight children, two dying in infancy. The others survived their parents namely : Mrs. Catherine Jones and mrs. Ellen Chappel, Philadelphia; Miss Margaret Roberts, West Bangor; Mr. Robert Roberts, Spokane, Washington; Mr. Evan W. Roberts and James Garfield Robert, West Bangor.

He was elected elder of the rehoboth Welsh C. M. Church, April 27th, 1890, which position he filled with great honor and dignity until his death, which took place at his home in West Bangor, November 27th, 1914.

Mr. Roberts was a man of marked ability. He devoted his life to reading the best books that he could lay his hands on. He made a specialty of Theology and by his unusual grasp of mind and incessant reading he had qualified himself to be a safe leader in the church and especially in Sunday school. When he was a young man he entered the ministry and was received into the presbytery as a licenciate preacher, and though he never followed the profession for reasons of his own, he had the privelage to preach if he so desired.

Not only was he a man of exceptional ability, but he was also a man of strong character and personality. He lived his profession among his fellow man in the quarry and wherever he might be, and by his consistent life made a deep impression upon all that came in contact with him and commanded a deep respect from his employers as well as from his fellow workers. He never took much part in public affairs or business enterprises. He was contented with an honest day's work and always felt grateful to his employers.

He ssemed to have only one ambition in life and that was to serve God in His sanctuary. He took great interest in church work. He read carefully about every movement concerning the Welsh Calvanistic body in this country and in Wales, but his greatest interest was in the welfare of Rehoboth church where he was a member an an elder and guarded the honor of the church with jealoys seal. He could not tolerate any infringement on the rules of the church, and with others who had preceeded him they made a very faithful and successful effort to maintain a high moral standard for the church.

We cannot claim that he was a perfect man like Job, undoubtedly he had his faults, but his removal from our midst has brought his virtues so vividly before us that we cannot see anything but his loyalty, faithfullness and devotion to a cause that he loved greater than his own life. We mourn our loss but we do not begrudge him his rest. He has put in a long day and filled it with honest labor for the Master. He was present in the church meeting the night he was taken ill. He died in perfect peace, resting on the Rock of Ages.

He was buried Monday afternoon November 30th 1914. Services were conducted at the house by his pastor, Rev. W. C. Rowlands. Internment at Slateville. Thw pallbearers were William R. Williams, Robert Lloyd, Robert H. J. Evans, William Roberts, William O. Hughes and Richard Rees.

Find a Grave.