MR. THOMAS RUSSELL. NEW CAMBRIA, MISSOURI.

Bu farw Thomas Russell yn New Cambria, Missouri, Mawrth 18fed, 1914, wedi dyoddef cystudd blin am ddeg niwrnod.

Brodor ydoedd o sir Feirionydd, Llanegryn, Gogledd Cymru. Yr ydoedd yn nai i'r diweddar Barch. Edward Rees, Collinsville, New York.

Bu fyw am nifer o flynyddoedd yn agos i Brookfield, Missouri, ond ryw 25 o flynyddoedd yn ol symudodd i New Cambria, lle y terfynodd ei ddyddiau yn 88 mlwydd oed.

Mae Mrs. Russell hefyd yn wael; hithau hefyd yn 86 mlwydd. Yr oedd gan Mr. Russell ddau fab yn yr Hen Wlad.

Y Drych ~ Ebrill 2ail, 1914.