MRS. ANN THOMAS. FAIRHAVEN, VERMONT.

Chwith iawn genym gofnodi marwolaeth yr hen chwaer, Mrs. Ann Thomas, anwyl briod Mr. W. J. Thomas, yr hon gymerodd le brydnawn Sadwrn, Gorphenaf 25ain, yn ei chartref ar 4th Street, a hi yn 73 mlwydd oed.

Ganed hi Mawrth 24ain, 1841, yn Pant Llwyd, Llan Ffestiniog, sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Yr oedd swyn a mawredd ardal ei genedigaeth a'i phlentyndod yn nodweddu ei chymeriad meddyliol.

Enwau ei rhieni ydoedd Morris Roberts a Jane Morris. Yr oedd yr ymadawedig yn un o 13eg o blant. Bu yn briod ddwy waith. Ymunodd mewn glan briodas y waith gyntaf yn 1862 ag Owen J. Pierce, Geufron, Blaenau Ffestiniog, yn ei chartref genedigol.

Yn y flwyddyn 1872, ymfudasant i'r wlad hon gan ymsefydlu yn Fairhaven. Nid hir ar ol dyfod i'r wlad hon y bu cyn dechreu gweithio ac ymdrechu yn galed i enill cartref iddi ei hun, ac yn mhen ychydig amser llwyddodd yn ei hymdrech i ddod i feddiant o un o'r cartrefi mwyaf dymunol yn yr ardal, ac yma y treuliasant eu hoes.

Ar ol byw yn ddedwydd am wyth mlynedd ar hugain cymerwyd ef ymaith gan angeu gan ei gadael yn amddifad. Er adeg claddu ei hanwyl briod, a chan nad oedd ganddi blant i ddenu ei bryd a hawlio ei sylw, rhodiai Mrs. Pierce mewn unigedd a thristweh.

Pum mlynedd yn ol, ymunodd eilwaith mewn priodas a William J. Thomas, yr hwn a adawyd i alaru ar ei hol. Gadawyd hefyd ddwy chwaer, sef Mrs. William Francis a Mrs. William Jones o New York, yr unig ddwy sydd yn aros o'r tri-ar-ddeg o blant. Cafodd yr hen chwaer ei bendithio a natur garuaidd a thyner, ac er na chlywid ei llef yn y cyhoedd, eto ei thystiolaeth bersonol ydoedd mai ffynonell ei holl gysur ydoedd Gair yr Arglwvdd, a chredwn iddi gael ei chludo gartref yn ddyogel gan bwyso yn ffyddiog ar addewidion Duw yn ei Air.

Meddai ar gof da, a dymunol fyddai gwrando arni pan ar ei gwely angeu yn adrodd adnodau a phenillion, pa rai a ddysgodd pan yn ieuanc. Nodwedd arall o'i heiddo ydoedd ei theyrngarwch i'w heglwys ac i'w gweinidog. Gallai hi feirniadu, a gwnai hyny pan y tybiai fod angen, ond pan glywai rhywun o'r tu allan yn beio, safai yn ddewr i amddiffyn ac ymroddai yn selog a hyawdl i ganmol.

Cafodd ei chymydogion fantais i'w hadnabod yn da, ac yr oedd eu parch iddi a'u hedmygedd o honi yn cynyddu hyd y diwedd. Nid oedd raid i Mrs. Thomas ostwng pen i neb yn y rhinwedd o ofalu am ei thy ei hun, fel y tystiai glanweithdra a threfnusrwydd ei thy a'i holl amgylchiadau allanol bob amser; eto ni pharodd y rhinwedd hwn iddi fod yn hunangar un amser. O, na, yr oedd yr un barotaf o bawb i gynorthwyo eraill pan y byddai gofyn am hyny, a chyflawnai yn llythyrenol y gorchymyn, "Gwnewch dda a rhoddwch echwyn heb obeithio dim drachefn, a'ch gwobr a fydd mawr, a plant fyddwch i'r Goruchaf."

Ni oddefodd i'r rhinwedd o drefnusrwydd a glanweithdra fyned a gormod o'i bryd a'i hamser fel y gwna rhai, yr oedd yr un mor drefnus a gofalus i barotoi ei hun ar gyfer y byd mawr tragwyddol.

Bu yn cwyno am yn agos i ddwy flynedd, ond tua pythefnos cyn ei marwolaeth, cafodd ergyd o'r parlys. Cafodd y gofal mwyaf gan ei phriod a'i chymydogesau hyd nes y terfynodd ei thaith ac y cafodd ollyngdod o bob blinder a phoen. Cafodd angladd barchus, pryd y daeth torf o'i chyfeillion a'i chydnabod i dalu y gymwynas olaf iddi dydd Mawrth, Gorphenaff 28ain.

Gwasanaethwyd yn y ty ac yn y fynwent gan y Parch. John Rhiwen Willitams yn effeithiol iawn; cafwyd amryw o hoff emynau yr ymadawedig gan gor o dan arweiniad Hugh Owen yn y ty ac yn y fynwent, a rhoddwyd hi i orwedd yn Cedar Grove Cemetery. Bydded i Dduw gysuro y priod a'i nerthu yn yr amgylchiad, a nawdd y nef fyddo drosto weddill ei fywyd.
Gan John J. Williams.

Y Drych ~ Awst 13eg 1914.