MRS. KATE FOULKES THOMAS. SPOKANE, SPOKANE COUNTY, WASHINGTON.

Ar yr 8fed o'r mis o'r blaen, Rhagfyr, cefais deligram oddiwrth Arthur Thomas o Spokane, Washington, yn dweyd fod ei fam wedi marw y boreu hwnw, yr hon oedd yn gyfnither anwyl iawn i mi.

Ganwyd hi yn Bethel, Arfon, oddeutu 63 o flwydd yn ol, yn ferch i Thomas W. Foulkes, ysgoldy, a'i briod; ei thaid yn frawd i fy nhad, ac felly yr oeddym yn gefnder a chyfnither.

Pan oddeutu 22 oed, daeth i'r wlad hon gan ymsefydlu am flynyddau yn ninas Efrog Newydd, ac yn aelod ffyddlon o eglwys 13th Street. Cofir am dani eto gan amryw wrth yr enw Kate Foulkes.

Oddeutu 35 mlynedd yn ol, aeth i California i ymuno mewn priodas a Hugh Thomas, a buont yn byw, os nad wyf yn cam gofio,, yn Placerville. lle mae ei brawd, Tom Foulkes, yn gorwedd er's llawer flwyddyn. Oddi yno symudasant i Rockland, Canada, lle treuliasant flwyddi; yna symydasant i Big Bend, Washington, ac yno y claddodd hi ei gwr flynyddau yn ol.

Deallwyf iddi fod yn ffyddlon iawn yn eglwys y Big Bend, ac yn arwain y canu am flynyddau. Yr oedd canu yn naturiol iawn iddi, a gallai ddarllen cerddoriaeth yn lled rwydd, ond y peth mwyaf ynddi oedd dynoliaeth fawr, cymeriad pur, a hwnw wedi ei drwytho a gras.

Ychydig flwyddi yn ol, symudodd i Spokane er mwyn y plant. Nid oedd ameuaeth am ei chrefydd hyd yn oed pan yn ferch ieuanc, yn nghanol temtasiynau tref New York.

Gadawa amryw blant ar ol, wedi tyfu fyny i gyd. Hvderaf y bydd iddynt fyw fel ag y maent wedi cael eu dysgu, ac y bydd iddynt gofio am fod yn ffyddlon i Dduw eu mam.

Ffarwel it', gyfnither anwyl,
Buost ffyddlon tra yn fyw
I'th gyfeillion a'th berthynasau.
Ac yn benaf oll i'th Dduw;
Cenaist lawer yn dy fywyd
Er yn nghanol byd o boen;
Ceni mwyach mewn tangnefedd
Byth yn nghwmni Duw a'r Oen.

Gan Jabez M. Williams.

Y Drych ~ Ionawr 14eg 1915.


MRS. KATE FOULKES THOMAS. SPOKANE, SPOKANE COUNTY, WASHINGTON.


Mrs. Kate Thomas, E. 1515 Second Ave.

Ganwyd Mrs. Thomas yn Ysgoldy, Bethel, Gogledd Cymru, Ionawr 3ydd, 1853; merch ydoedd i'r diweddar Thomas William Ffoulkes a Mrs. Ann Ffoulkes o'r lle uchod, ac mae iddi dri brawd a dwy chwaer yn fyw ac yn cartrefu yn sir Gaernarfon.

Daeth i'r wlad hon yn 1872, pan yn eneth ieuanc bedair ar bymtheg oed, a bu yn gwasanaethu yn New York am dros wyth mlynedd, o'r hwn le yr aeth i San Francisco, California, yn 1881, pryd yr ymunodd mewn glan briodas a Hugh R. Thomas, brodor o'r Gwernydd, Bethesda, Arfon. Buont yn cartrefu mewn amryw leoedd, sef Placerville, Califfornia; yna y Big Bend, Washington, y tro cyntaf yn 1881, yna symudasant i Butte, Montana, ac oddi yno i New Rockland, Canada, lle y bu Mr. Thomas yn oruchwyliwr ar chwarel lechi yno. Yn 1889, daethant yn ol i dalaeth Washington, gan aros ychydig yn Sprague, yn yr hwn le y dyoddefasant golled drom trwy dan.

Symudasant oddi yno i'w fferm yn y Big Bend, a dyma yr amser y daeth yr ysgrifenydd i gyfarfyddiad a'r teulu. Yr oedd un peth yn nodweddiadol yn ei chymeriad, yr oedd yn ufudd i wneyd pob peth a allai gydag achos yr Arglwydd. Nid oedd dim yn rhy fychan ganddi i wneuthur dros ei Gwaredwr, ac nid oedd yr un aelod o hen eglwys bach Cymreig y Big Bend mor gyson yn y moddion a hi.

Bu yn arwain y gan am flynyddau, a phan y byddai Mrs. Thomas yn canu hawdd deall fod ei holl galon a'i hysbryd yn y gan. Yn y cyfarfodydd llenyddol byddai hi yno bob amser yn llenwi ei lle.

Yr oedd yn hoffi llenyddiaeth, ac ysgrifenodd ambell i bwt dyddorol i'r "Drych" flynyddau yn ol, ond gyda'r canu a'r Ysgol Sul byddai Mrs. Thomas wrth ei bodd.

Peth arall yn raglyn a Mrs. Thomas a'r teulu oedd eu caredigrwydd a'u lletygarwch. Byddai ei chartref yn agored bob amser i'r Cymry, ac nid oedd ball ar y croesaw. Yr oedd yn un o'r cymeriadau prydferthaf a gwnaeth le parchus ac anwyl iddi ei hun mewn byd ac eglwys. Yr oedd dylanwad dystaw, cyson ei bywyd yn siarad yn uchel am dani fel un o ffyddloniaid i Iesu Grist. Yr oedd bob amser yn bwyllog, ni phetrusai neb roddi pob ymddiriedaeth ynddi, ac edmygid ei hysbryd gostyngeilig a'i hamcanion da gan bawb.

Nid bywyd tawel ac esmwyth ga'dd y chwaer anwyl hon, ar ei thaith trwy y byd yma. Yn Ionawr 17eg, 1896, bu farw ei hanwvl briod. a Mai y 12fed. o'r un flwyddyn, collodd eneth fach yn naw mis oed. Claddwyd hwy yn mynwent bach y Big Bend.

Gadawyd Mrs. Thomas yn weddw gyda pedwar o blant bach i ofalu am danynt. Ymladdodd yn galed i'w cadw, a hyny trwy anfanteision mawr, gan roddi ei hymddiried yn y Gwr nad yw byth yn tori ei addewid. Symudodd oddiar y Fferm i Spokane tua pum mlynedd yn ol, gan nad oedd ei hiechvd yn dda er's tro, gan obeithio y buasai y cyfnewidiad er gwell iddi, ond yn lle hyny gwaethygu yr oedd.

Dyoddefodd gystudd trwm, ond yn berffaith dawel, yr oedd popeth wedi ei setlo ganddi yn y byd hwn, yr oedd yn barod pan ddeuai yr alwad, ac nid oedd yn gorfod ymadael mewn brys, "Ni frysia yr hwn a gredo."

Bu farw boreu boreu dydd Mawrth, Rhagfyr 8fed, 1914, gan adael i alaru eu colled tri mab, Richard, Arthur a Wm. Henry. ac un ferch, sef Mrs. Henry Phillips, yn nghyd a nai, Thomas Morris, yr oll o Spokane, Washington. Hefyd amryw berthynasau yn Pennsylvania, a'i chefnder Jabez Williams, o Wilkes-Barre, Pennsylvania, yn nghyd a'i brodyr a'i chwiorydd yn Nghymru.

Derbyniodd bob tynerwch a gofal gan ei phlant, y rhai fu yn gweini yn ddyfal arni hyd y mynydau olaf. Cymerodd ei hangladd le prydnawn dydd Gwener, Rhagfyr 11eg, amryw o'i hen gyfeillion o'r Big Bend wedi dod i dalu y gymwynas olaf iddi. Gwasanaethwyd yn y ty, ac yn y fynwent gan y Parch, D. K. Roberts, gweinidog yr eglwys Gymraeg.

Claddwyd ei gweddillion yn Greenwood Cemetery. Nid wyf yn meddwl y gwelwyd angladd mwy urddasol a pharchus yn nhref Spokane na hwn, hyd yn nod yr angladd yn portreadu ei chymeriad ac hefyd gariad a pharch ei phlant tuag ati. Gorphwysed mewn tawelwch fel ag y bu fyw, a nawdd y nef fo dros ei hanwyl blant a'i pherthynasau.

Mewn heddwch byddo'i llwch
Yn dawel yn gorphwyso,
Ag engyl nef fo'n gwylio
Y llanerch lle mae'n huno,
Hyd nes y daw i'r lan,
Pan gan yr udgorn ola,
Pryd cymer hi ei rhan,
Gan floeddio "Haleluwia."

Dymunir ar i bapyrau Cymru godi yr uchod.

Y Drych ~ Ionawr 21ain 1915.