MRS. MARY D. THOMAS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Damwain Ofidus.
Prydnawn ddoe (dydd Mawrth) tarawyd Mrs. Mary D. Thomas, 79 mlwydd oed, o 16 Chestnut Street, y ddinas hon, gan heol-gerbyd ger Clinton Place a Genesee Street. Wedi y ddamwain, prysurwyd a hi i ysbyty Faxton, ond cyn cyraedd yr ysbyty yr oedd bywyd wedi ehedeg ymaith.
Ganwyd Mrs. Thomas, yn sir Feirionydd, Hydref 7fed, 1835, a daeth i Amaerica gyda'i rhieni, Mr. a Mrs. Griffith O. Hartley, gan sefydlu yn Marcy.
Oddeutu 50 mlynedd yn ol yn Frankfort unodd mewn priodas a Henry P. Thomas, a sefydlasant yn Bridgewater, lle y bu fyw hyd farwolateth ei phriod, pryd y daeth i fyw i Utica at ei merch, Mrs. Simmonds. Gedy amryw o blant mewn galar.