MR. THOMAS JOHN THOMAS. NAZARETH, NORTHAMPTON COUNTY, PENNSYLVANIA.

Yn Nazareth, Pennsylvania, Mawrth 15fed, 1914, bu farw Thomas J. Thomas (Tomi Tom), fel y gelwid ef.

Ganwyd ef yn sir Gaernarfon, Awst, 1834; felly yr oedid ychydig fisoedd yn fyr o'r pedwar ugain.

Hanai o deulu yr enwog Dafydd Ddu Eryri, ac yr oedd wedi byw yn mhell dros ddeugain mlynedd yn Belfast a Danielsville, Pennsylvania, yn agor chwarelau; weithiau yn llwyddianus ac weithiau, fel arall.

Cymeriad tawel caredig ydoedd a fawr hoffid.

Dygwyd ei weddillion i Belfast i'w claddu, ac aeth amryw o Gymry Bangor i'r angladd. Gan fod y teulu yn dymuno am gael canu Cymraeg, cafwyd canu da yno, a buasai mwy wedi mynd yno onibae fod y tywydd yn anffafriol. Gwasanaethwyd gan y Parchn. Ifor Thomas a John W. Griffith.

Y Drych ~ Ebrill 2ail, 1914.