MR. WILLIAM J. THOMAS. BROWNVILLE, PISCATAQUIS, MAINE.
Dydd Iau, y 15fed cyfisol, bu farw y boneddwr adnabyddus, William. J. Thomas, Brownville, Maine, yn 71 mlwydd oed.Mab ydoedd yr ymadawedig i John ac Ann Thomas, Tanyffordd, Bethesda, Arfon, Gogledd Cymru. 6adawodd fryniau Arfon yn ddyn ieuanc cydnerth, hardd ei wedd, a heinyf ei gerddediad, gan wynebu am wlad fawr y Gorllewin.
Chwarelwr ydoedd wrth ei alwedigaeth, a threuliodd y deng mlynedd cyntaf yn llech chwarelau Vermont, Pennsylvania a Virginia. Wedi hyny, bu am ddeugain mlynedd yn Brownville, Maine, lle yr oedd yn fawr ei barch ac yn gymeradwy gan bob gradd a sefyllfa. Blinid ef gan afiechyd y galon, a bu yn wael am tua dwy flynedd. Cafodd y gofal tyneraf a allasai priod hoff, plant, a pherthynasau ei roddi iddo, ond ar y 15fed cyfisol angeu a orfu ac ymgollodd o olwg ei anwyliaid rhwng colofnau niwl y glyn.
Yr oedd yr ymadawedig yn foneddwr caredig, tawel, a diymhongar, a meddai ar farn addfed, doethineb a phwyll. Y mae llawer o hen chwarelwyr ar hyd a lled y wlad yn ei gofio fel chwarelwr medrus a chelfydd, a bu am flynyddoedd yn oruchwyliwr llwyddianus yn y Norcross Quarry yn Brownville.
Y Sul dylynol, hebryngwyd ei weddillion gan dyrfa barchus i dy ei hir gartref yn mynwent Brownville. Gwasanaethwyd yn effeithiol yn y ty gan y Parch. C. W. Robinson, ac ar lan y bedd gan gymdeithas yr I. O. O. F. o Milo, lle yr oedd yr ymadawedig yn aelod poblogaidd o'r urdd.
Ar ol yn galaru y mae ei briod hoff a chwech o blant, Mrs. E. L. Kenfield, Wakefield, Mass.; Maurice W. Thomas, Chapleau, Ontario, Canada; Catherine F. Smith, a Mrs. Charles Smith, Brownville; Miss Margaret Thomas, Portland, Me.; John Thomas, Brownville; Mrs. Charles Bevan, Billerica, Mass.; Grace E. Thomas, Farmington, Mass.; hefyd dau frawd a chwaer, sef John J. Thomas, Fairhaven, Vt.; Owen Thomas, ysgolfeistr yn Llanfair, P. G., Mon, G. C.; Mrs. H. Williams, Swindon Wilts, gerllaw Llundain.
Yr oedd y plant i gyd yn yr angladd oddigerth Maurice, yr hwn o herwydd pellder ffordd nis gallai gyraedd mewn pryd. Hefyd fel y crybwyllwyd yn y Drych diweddaf aeth John J. Thomas o'r dref hon i dalu y gymwymas olaf i'w frawd.
R. O.