MRS. CATHARINE WILLIAMS. RANDOLPH, WISCONSIN.

Gyda theimlad o chwithdod mawr, y cofnodir hanes marwolaeth a chladdedigaeth y chwaer anwyl uchod, yr hyn a gymerodd le yn blygeiniol foreu Mercher, Mehefin 17eg cyfisol.

Ganed Mrs. Williams yn Llanwnda, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, a hyny ar y 14eg o Fedi, yn y flwyddyn 1840. Daeth trosodd i'r wlad hon yn ngwanwyn 1846, gan ymsefydlu gyda'i rhieni yn hen ardal enwog Proscairon. Arosodd yno hyd yn Chwefror, 1864, pryd yr ymunodd mewn glan briodas a Mr. Griffith Williams, Blaenycae, ac ar fferm yn yr ardal hono y treuliodd Mr. Williams a hithau y rhan oreu o'u bywyd. Yn 1899, symudodd y teulu i Randolph, ac yma y maent wedi byw oddiar hyny.

Ganwyd iddynt ddeg o blant, a loes mawr fu gweled claddu'r oll, ond y ddwy ferch, Mrs. John Griffiths a Miss Ella May. Ardal boblog ac enwog, ar un adeg, ydoedd Blaenycae, a llawer o wyr a gwragedd grymus a nerthol yn preswylio yno. Yn mysg y rheiny, ac yn amlwg iawn gyda symudiadan crefyddol yr ardal, yr oedd Mr. a Mrs. Griffith Williams, Bontnewydd, fel y'u gelwid, a pharasant felly ar hyd y blynyddoedd, fel mai prin, feallai, y buasai'n bosibl cael o fyd lleyg y cyfundeb Methodistaidd, ddau sydd a'u henwau yn fwy adnabyddus!

Nid yn unig, dylynai Mr. Williams gynulliadau swyddogol y cyfundeb, gan gymeryd rhan bwysig yn ngweithrediadau'r cyfryw, ond gofalai Mrs. Williams am rwyddhau'r ffordd iddo wneuthur hyny. Mwy, cadwodd ddrws agored i weision yr Efengyl drwy'r blynyddoedd, ac nid oes odid bregethwr, na wyr yn dda am wen gynes a chroeso dirodres y teulu hwn. A diau, y bydd llawer o honynt ar hyd a lled y Talaethau yn teimlo'n chwith iawn o ddarllen yr hysbysiad hwn am ei marwolaeth.

Dynes syml, blaen a dirodres ydoedd Mrs. Williams, ac eto'n meddu ar fwy o graffder na'r cyffredin. Meddai ar allu i adnabod pobl yn well na llawer, ac eto, yr oedd gyda'r mwyaf hwyrfrydig a gochelgar i ddatgan ei barn, hefyd. A phan wnai, gofalai fod ei hymadroddion wedi eu tymeru a gras ac a chariad Efengyl y bendigedig, Iesu. Nid oedd neb yn ffyddlonach i'w gweinidog na hi. Gwnai gyfrif deublyg o hono ef a'i deulu "er mwyn eu gwaith!" Carai son am lwyddiant teyrnas Iesu Grist, ac nid oedd a lawenychai'n fwy pan glywai am lygedyn o adfywiad ysbrydol yn taro gwlad, neu ardal!

Yr ymddyddan olaf a gawsom gyda hi, oedd ar ddydd Iau cyn cychwyn i'r Gymanfa yn Milwaukee, ac nid yn fuan yr anghofiwn ei geiriau. "Wel," meddai, "fe fydd yno lawer o bobl, o Chicago, Racine ac o'r parthau hyn. Fe fydd yno lawer o bregethwyr, hefyd, rhai o'r wlad hon, a rhai o'r Hen Wlad. Gobeithio yn fawr y bydd Iesu Grist yno, ac y caiff pechaduriaid lawer eu hachub i fywyd tragwyddol!" Hawdd oedd credu y ceid Cymanfa dda, o wybod fel hyn am gydymdeimlad a gweddau saint Duw drosti!

Bu farw'n dawel, fel un yn syrthio ar gwsg esmwyth! Gedy mewn hiraeth mawr ar ei hol, ei phriod oedranus, dwy ferch, a dau frawd, Mri. Owen a Richard Prichard, y ddau o'r ardal hon.

Cynaliwyd yr angladd ddydd Sadwrn, Mehefin 20fed, a hyny yn mhresenoldeb tyrfa fawr. Gwasanaethwyd gan y Parchn. F. Tegfryn Roberts, J. O. Parry, D. E. Jones, W. W. Davies a J. R. Jones.

Claddwyd yn mynwent Randolph. Nerth ac amddiffyn Duw Jacob fo'n eiddo'r teulu oll.
Gan y Parch. F. Tegfryn Roberts.

Y Drych ~ Gorphennaf 2ail 1914.