PARCH. D. J. WILLIAMS. VALHALLA, WESTCHESTER COUNTY, NEW YORK.

Mae calonau canoedd yn ein gwlad, yn ogystal ac yn ngwlad ein tadau, mewn gofid mawr y dyddiau hyn, yn herwydd marwolaeth y gwr da ac anwyl uchod.

Gwyddem ei fod er's blynyddoedd yn dyoddef oddiwrth afiechyd nad oes ond ychydig yn gwella o hono; eto ni feddyliasom fod ei ddiwedd mor agos. Ond y diwedd a ddaeth, ac nid oes genym wrth feddwl am hyny, ond gostwng pen ac wylo.

Daeth ein brawd i'r wlad hon ychydig dros bedair blynedd yn ol, a chefais y fraint y pryd hyny o fod yn un o'r rhai a hyrwyddent ei daith, yn nghyd a'i gyflwyno i sylw swyddogion eglwys 11th Street, New York.

Cafodd ein brawd alwad hefyd o eglwys Gyntaf Wilkes-Barre, ond i New York yr aeth. Gwyr y rhan fwyaf o'i gydnabyddion mai genedigol ydoedd o Fynydd Llandegai, sir Gaernarfon, ac iddo gael addysg dda yn moreu ei oes. Meddyliai y bobl y pryd hyny mai ysgolfeistr a fyddai, ond nid felly y meddyliai Duw. Pregethwr oedd ein brawd i fod, ac yn wir, byddwn yn arfer credu mai mwynhad penaf ei feddwl a'i ysbryd ydoedd son am bregethu, a gwneyd pregethau. Byddai ganddo bob amser gynllun clir a dealladwy, a dylynai ef yn ffyddlawn o'r dechreu i'r diwedd.

Yn Athrofa Aberhonddu y daethym i gyffyrddiad ag ef gyntaf, a hyny pan oeddwn yn gweinidogaethu yn Bethesda, Bryn Mawr, D. C. Yr oedd yn fyfyriwr diwyd, a gwnaeth gynydd cyflym yn ystod ei arosiad yn yr Athrofa. Derbyniodd amryw o alwadau yn mhell cyn gorphen ei gwrs addysgol, ond galwad eglwys gref a pharchus Saron, Tredegar, Mynwy, a atebodd. Yr eglwys lle y bu Ieuan Gwynedd o gysegredig goffadwriaeth yn gweinidogaethu. Yr oeddwn yn bresenol yn ei urddiad. Nid wyf yn cofio yr oll oedd yn bresenol. Credaf fod y Parch. R. Rowlands, Treflys, a'r Parch. J. Foulkes, Aberavon, yn bresenol. Bu ein brawd yno am amryw flynyddau yn dra llwyddianus, ac yn fawr ei barch gan bawb.

Nid oedd neb ag yr oedd y bobl yn fwy hoff o'i glywed yn nghylchoedd Mynwy na "Williams bach Tredegar" fel y'i gelwid. Ond er mawr syndod i bawb, wele ef yn gadael Saron, Tredegar, i gymeryd gofal eglwys Goffadwriaethol Porthmadoc, G. C., ac yno y bu yn llwyddianus a pharchus hyd nes y daeth drosodd i'r wlad hon. Dylwn ddweyd yn y fan hon mai sefyllfa ei iechyd a'i cymellodd i ddyfod yma. Credaf mai myfi gafodd yr awgrym cyntaf o'i fwriad i ymfudo. A phan y gwnaeth, melus ydoedd ein cyfarfyddiad cyntaf a'n gilydd. Cefais yr anrhydedd gyda'm brawd, y Parch. D. Jones o'r ddinas, hon, o fod yn ei gwrdd croesawol yn 11th Street, New York.

Gwahoddwyd ni ein dau yr wythnos ddiweddaf i wasanaethu yn ei angladd. Aethom ein dau, a hyny gyda chalonau trist, a daeth yn nghyd ganoedd o bobl y rhai oeddynt yn galaru ac yn wylo ar ei ol. Yr oedd pobl oreu New York wedi dod i'r addoldy yn brydlawn nos Iau diweddaf i dalu teyrnged o barch i goffadwriaeth ein hanwyl frawd. Yn oedd yn nghyd gynrychiolaeth dda o wahanol enwadau y ddinas, yn Gymry a Saeson. Arweiniwyd y gwasanaeth drwyddo gan y Parch. D. Jones, Scranton. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. W. R. Edwards, yr hwn hefyd a siaradodd yn gyntaf. Dylynwyd ef gan y Parch. Joseph Roberts, D. D., Parch. F. R. Kirkwood, Parch. Anthony Evans, D. D., a'r Parch. Hugh Pritchard.

Yr oedd y gwasanaeth drwyddo yn drist, er hyny, nid oedd neb yn drist ddiobaith, oblegid gwyddai pawb fod ein brawd mewn anrhaethol well lle. Unai y dorf i gydganu, er mai cydwylo yr oeddynt yn eu calonau. Cafodd ein brawd gladdedigaeth tywysog, ac yr oedd yn ei wir deilyngu.

Y mae cydymdeimlad y ddinas a'r wlad gyda Mrs. Williams a'r ferch yn yr awr ryfedd y brofedigaeth hon. Mae Mrs. Williams yn un o ragorolion y ddaear, a bu yn ofalus a thirion o'i phriod yn ei fynych waeledd ar hyd y blynyddoedd: Nawdd y nef fyddo dros y fam a'r ferch. Dyddaned yr Arglwydd hwy a dyddanwch ei iachawdwriaeth.

Pregethodd y Parch. D. Jones bregeth angladdol iddo yn addoldy 11th St. nos Sabboth diweddaf oddi ar y geiriau hyny, "Ac ni bydd nos yno." Dangoswyd y caredigrwydd a'r cydymdeimlad mwyaf trylwyr a Mrs. Williams a'i hunig ferch yn yr holl drefniadau a wnaed yn nglyn a chladdu gweddillion y priod a'r tad. Cyn symud y corff o'r cartref i'r eglwys nos Iau cynaliwyd ychydig o wasanaeth crefyddol gan swyddogion yr eglwys a chyfeillion mynwesol y teulu.

Boreu dydd Gwener cyfarfyddwyd yn ngorsaf y Grand Central am un-ar-ddeg o'r gloch, a chymerwyd y tren i Kensico Cemetery, ryw 26 o filldiroedd o'r ddinas. Gorchuddid y fangre hono gan fantell o eira, a chan nad oedd y teulu wedi cael amser na chyfleustra i ddewis y fan i gladdu, gosodwyd y corff mewn receiving vault hyd yr adeg pryd y gellir gwneyd y dewisiad. Yr oedd yn nghyd tua deugain o gyfeillion yn cynrychioli y ddwy eglwys Gymreig a chymdeithas Dewi Sant. Cynaliwyd gwasanaeth byr yn y gladdfa. Darllenwyd rhanau priodol o air Duw, a gweddiwyd gan y Parch. David Jones, Scranton. Canwyd dau, emyn, un yn Gymraeg ac un yn Saesneg, gan y ffryndiau oedd yn nghyd.

Yr oedd trefniadau y claddu o dan arolygiaeth Mr. P. W. Radcliffe, llywydd Stephen Merritt, Burial and Cremation Company, a gwnaeth bob peth yn weddus a deheuig iawn. Mae llawer yn teilyngu cael eu nodi fel rhai fu garedig a pharod i gynorthwyo y teulu yn eu galar, trwy ymweled a hwy a gweini arnynt, a thrwy anfon toraeth o flodau prydferth iddynt, ond yn sicr y goddefa yr oll im i enwi y cymrawd caredig, W. R. Hughes. o'r ddinas. Yn ol ei haelioni arferol anfonodd yn rhad un o'r eirch rhagoraf a welais erioed i osod gweddillion y gweinidog anwyl hwn ynddi hyd foreu y codi.

Yr oedd pawb yn synu at ei gwneuthuriad, ac yn teimlo yn anwyl at y brawd Mr. Hughes am y weithred deilwng hon o'i eiddo at Mrs. Williams yn y cyfwng hwn yn ei hanes. Bydded i Breswylydd y Berth amddiffyn a chynal y weddw a'r ferch ieuanc amddifad, a thaled yn ddau dyblyg i bawb wnaeth gymwynas a'r marw ac a'r teulu bychan hwn yn ei gyfyngder.
GLAN LLAFAR.

Y Drych ~ Ionawr 15fed 1914.