MR. DAVID J. WILLIAMS, POULTNEY, RUTLAND COUNTY, VERMONT.
Poultney, Vermont. Dydd Sadwrn diweddaf, Mawrth 7fed, 1914 bu farw yr hen frawd David J. Williams yn ei gartref ar Beaman Street.Ganwyd ef yn Cilgeraint, Bethesda, Arfon, Chwefror 23ain, 1831. Enwau ei rieni oeddynt John a Catherine Williams, ac felly yr oedd wedi cyraedd yr oedran teg o 83.
Ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1853; ac eithrio rhyw dair blynedd y bu yn Colorado, treuliodd yn yr ardaloedd hyn, dros driugain mlynedd.
Ymunodd mewn glan briodas a Miss Charlotte Owens yn y flwyddyn 1858, yr hon sydd wedi ei gadael i alaru ar ei ol. Mae yma lawer yn cofio ddathliad 50 mlwydd eu bywyd priodasol er's ychydig yn ol.
Ganwyd iddynt bedwar o blant, o'r rhai y mae tri yn aros, sef John D., William D., a Mrs. Eleanor Farmer, yr oll o Poultney. Yr oedd yr hen frawd David Williams yn gymeradwy gan bawb yn yr ardaloedd hyn. Tra yma bu yn amlwg gyda'r fasnach lechi, ac wedi ymdrech galed, llwyddodd, a rhoddodd y fasnach i fyny.
Prydnawn dydd Mawrth, y lOfed, hebryngwyd ei weddillion i fynwent Poultney, pryd y gwasanaethwyd gan ei weinidog, y Parch. John W. Morris, ac mae cydymdeimlad llwyraf yr ardal a'r teulu yn y brofedigaeth.
Y Drych ~ Mawrth 19eg, 1914.
MR. DAVID J. WILLIAMS, POULTNEY, RUTLAND COUNTY, VERMONT.
Mae gohebydd arall eisoes wedi cofnodi marwolaeth y diweddar hen gyfaill David J. Williams (Shon Ddol) ar ddalelnau y "Drych," ond ar gais gweddw a theulu yr ymadawedig ceisiaf ymhelaethu ychydig ar yr hyn sydd wedi ymddangos yn flaenorol.Ganwyd Dafydd Williams yn Nghilgeraint, Bethesda, Arfon, ar y 23ain o Chwefror, 1831; enwau ei rieni oeddynt John a Catrin Williams. Bu iddynt ddeg o blant, ac yn marwolaeth gwrthrych ein hysgrif symudwyd yr olaf o honynt o dir y byw. Brawd iddo ef oedd y diweddar Hugh J. Williams (Huw Shon Ddol) fu farw yma yn 1910, a bu brawd arall, Richard, farw yn Bethesda yr haf diweddaf.
Daeth ein gwrthrych drosodd i'r wlad hon yn 1853 pan yn llanc dwy ar hugain oed, ac yr oedd wedi bod yn agos gysylltiedig a dadblygiad llech-chwarelau Vermont yn ystod y triugain mlynedd hyn.
Ymunodd mewn glan briodas a Miss Charlotte Owens, merch i John W. ac Eleanor Williams, Fairhaven gynt, ar yr 16eg o fis Tachwedd, 1858, a chofus gan lawer o'n hardalwyr ddathliad eu haner canrif o fywyd priodasol yn eu cartref clyd ar Beaman Street, yn mis Tachwedd, 1908, pryd yr ail weinyddwyd y seremoni briodasol iddynt gan y Parch. J. W. Morris. Ganwyd iddynt bedwar o blant; y tri sydd wedi goroesi y tad, sef John D. a William D. Williams a Mrs. Elenore Farmer, yr oll yma yn Poultney, a Catherine, fu farw yn blentyn blwydd oed yn Fairhaven.
Dyn bychan o gorff ydoedd; un lluniaidd a glan, yn hynod chwim ei ysgogiadau ac yn llawn asbri. Mewn cymdeithas un braidd yn dawedog a gwell ganddo wrando na thraethu, ond pan fyddai ganddo rhywbeth i'w ddweyd gwelid ei wynebpryd yn goleuo a'i lygaid yn dawnsio gan ei awydd i gyhoeddi yr hyn fyddai ar ei dafod. Gwr cartrefol oedd; anaml y gwelid ef yn mynychu lleoedd cyhoeddus; ei gartref oedd ei arosfan a'i deulu oedd cylch ei gymdeithas. Yr oedd yn ofalus ac yn ochelgar ei ymadroddion a chas beth oedd gwrando un arall yn diraddio neu yn traethu yn wael am ei gyd-ddyn.
Yr oedd wedi bod yn fethiantus am y chwe blynedd ddiweddaf, ond byddai yn codi allan yn achlysurol hyd at yr hydref diweddaf. Cwynai wrth ei briod, ond heb air o rwgnach, yn ystod yr wythnosau diweddaf gan ddweyd ar brydiau ei fod yn teimlo dadfeiliad y babell. Yn gynar boreu Sadwrn, y seithfed cyfisol, deffrowyd ei briod wrth glywed ochenaid ysgafn; brysiodd i ofyn iddo pa fodd y teimlai ond canfyddodd ei fod mewn cyflwr difrifol ac i raddau yn an ymwybodol. Bu farw yn uniongyrchol, ac enw ei briod ar ei wefusau.
Cafodd angladd parchus a lluosog brydnawn dydd Mawrth, y lOfed, y Parch. J. W. Morris yn gweinyddu; yr elorgludwyr oeddynt John O. Jones, John G. Hughes, David D. Hughes, Wm. N. Jones, Wm. H. Lloyd a Thos. R. Jones.
Claddwyd yn mynwent Poultney. Yr oedd ein cyfaill ymadawedig yn aelod ffyddlon o'r eglwys Gymreig yma, ac yn uchel ei barch yn ngolwg ei gyd-genedl yn ogystal a chenedloedd eraill.
Cydymdeimlir yn gyffredinol a'r weddw oedranus ac hefyd a'r plant, yn eu profedigaeth. Heddwch i'w lwch!
Y Drych ~ Ebrill 2ail, 1914.
MR. DAVID J. WILLIAMS, POULTNEY, RUTLAND COUNTY, VERMONT.
In the death of David J. Williams another lifelong resident of this community has been taken from us. Mr. Williams was a native of Wales. His parents were John and Catherine Williams, Cilgeraint, Bethesda, North Wales; he was born February 23rd, 1831, and had therefore just completed his eighty-third year. Saturday morning, in the early hours Mrs. Williams found him in pain and unable to move, having been stricken by paralysis. He passed away before medical aid could be rendered.Mr. Williams came to this country in 1853, and, with the exception of a short period spent in the mining regions of Colorado, his long life was spent in this vicinity, he having lived in Castleton, Fair Haven, Hampton and Granville.
He was married to Miss Charlotte Pwens, November 16th, 1858, and many JOURNAL readers will recall their happy 50th year anniversary, marked by a social event at their Beaman street home in November, 1908.
Four children were born to them, John D., William D., and Mrs. Eleanor Farmer, all of Poultney, and a daughter who died in infancy.
Mr. Williams was a quiet, unassuming man, honourable and upright in his dealings and shaping his life and actions according to the highest morals.
During the sixty-one years spent in this community, he had until his retirement some few years ago, been actively engaged in the slate business, having been connected with several slate enterprises since the days when this industry in this country was in its swadling clothes. With his brother, the late Hugh J. Williams, he had opened and successfully operated several quarries in Wells and Pawlet, and when he removed to Poultney some seventeen years ago, he, together with his son John D., opened a quarry on the so-called Hotchkiss farm in the south part of the town. He was always counted an expert upon matters pertaining to slate prospecting and quarrying and had filled positions calling for integrity and business abilities.
The funeral services were held at the home on Tuesday afternoon, the Rev. J. W. Morris officiating. The deceased had been a most faithful member of the Welsh church here for many years. The music was in charge of Edwin Evans and the following friends were pallbearers : John O. Jones, John G. Hughes, D. D. Hughes, W. N. Jones, W. H. Lloyd and Thomas R. Jones; internment was made in Poultney Cemetery.
The deceased is survived by the widow, Mrs Charlotte Williams, two sons and their families, John D. and William D. and one daughter, Mrs. E. E. Farmer, all here at Poultney.