MR. DAVID STEPHEN WILLIAMS. WHITESBORO, NEW YORK.

Mab David Stephen Williams (1813-1885) a Elinor Watkins (1823-1881) a brawd Corp. Edward D. Williams (1843-1864).

Find a Grave.


MR. DAVID S. WILLIAMS. WHITESBORO, NEW YORK.

Death of David S. Williams, Old Resident of Whitesboro.

Whitesboro, July 7th – At his home in this village shortly after noon yesterday occurred the death of David S. Williams, an old and highly respected and prominent in religious and musical matters.

He was born in Merionethshire, Wales, April 18th, 1846. With his family he came to this country when two years of age, and his first home here was in Deerfield, where his father had relatives. The family afterwards lived in Floyd and later in New York Mills. As a young man, Mr. Williams learned the carpenter’s trade with David Davis in Whitesboro, and his first work was on Walcott Hall of Whitestown Seminary, which some years since was turned into a knitting mill. For the last seven years, he had charge of the carpenter work at Waterbury’s Mills at Orskany.

He was a member of the Presbyterian Church, at Whitesboro and led its choir, for more than quarter of a century. He was also a member of Samuel Campbell Lodge, Royal Arcanum, New York Mills.

He was married on June 23rd, 1869. The following children survive Mrs. Jennie Hitchcock, David S. Williams, Mrs. Eugene Van Schaick and William Williams, all of Whitesboro. He was on of a family of 14 children, of whom only six are living. They are Rowland Williams of Oklahoma, Benjamin Williams of Utica, Mrs. Jane Morris of St. Paul, Minnesota, Mrs. Susanna Wheldon of Labo, Kansas, and Mrs. Nellie Griffith of Reading, Kansas.
Rome Sentinel Tuesday July 7th, 1914

Find a Grave.


MR. DAVID S. WILLIAMS. WHITESBORO, NEW YORK.

Gofidus yw gorfod hysbysu am farwolaeth y Cymro parchus David S. Williams, yr hyn gymerodd le ddydd Llun diweddaf yn ei gartref yn Whitesboro. Oddeutu wythnos yn ol, tra yn dylyn ei orchwyl yn melin Mri. Denton a Waterbury yn Oriskany, anafodd ei law, a bu i hyny gydag anhwylderau eraill ei wanhau yn fawr, a bu farw yr adeg a nodwyd.

Ganwyd Mr. Williams yn Meirionydd, Gogledd Cymru Ebrill 18fed, 1848. a daeth i'r wlad hon pan yn ddwy flwydd oed gan gartrefu gyda'i rieni yn Deerfield, New York. Oddi yno symudodd y teulu i Floyd, ac wedi hyny i New York Mills, ac oddi yno symudodd ef i Whitesboro.

Prentisiwyd ef yn saer, ac yn ystod yr haner can mlynedd diweddaf bu yn gweithio gydag amryw gymerwyr yn nghymydogaeth Utica, Whiteshoro ac Ilion.

Yr oedd Mr. Williams yn wr hoffus a phoblogaidd, yn gantwr gwych, ac eisteddfodwr pybyr. Yn y blynyddoedd a fu cymerodd ran amlwg yn nglyn a cherddoriaeth yn y cylchoedd hyn. Bu'n gwasanaethu rhai o'r eglwysi fel cantwr ac arweinydd y gan. Pan yn 18 oed, unodd ag eglwys Salem, New York Mills, ac oddi yno symudodd i Whitesboro, lle y dewiswyd ef i arwain y canu. Cyn hyny, bu'n canu yn nghor Ap Madoc yn eglwys Gyntaf y Presbyteriaid yn Utica. Yn yr Eisteddfod cyn y diweddaf gynelid yn yr Armory ddydd Calan yr oedd yn gystadleuydd ar yr unrhyw unawd i rai dros 50 oed. Gedy mewn galar ei briod, Elizabeth Morris Williams; dau fab a dwy ferch, sef Mrs. Jennie Hitchcock, David S. Williams, Mrs. Eugene Van Schaick a William o Whitesboro. Hefyd y brodyr a'r chwiorydd canlynol: Rowland Williams, Oklahoma; Benjamin Williams, o Utica; Mrs. Jane Morris, St. Paul, Minnesota; Mrs. Susannah Wheeler, Lebo. Kansas; Mrs. Nellie Griffith, Reading, Kansas.

Cymer y gladdedigaeth le prydnawn heddyw am 1 o'r gloch o'r cartref yn Whitesboro, a daearir ei weddillion yn meddrod y teulu yn Wrights' Settlement, Floyd.

Y Drych ~ Gorphennaf 9fed 1914.