MRS. ELLEN WILLIAMS. SLATINGTON, LEHIGH, PENNSYLVANIA.

Ar ol rhai misoedd o gystudd caled o gancr yn yr ystumog, bu farw Ellen Williams, anwyl briod Owen H. Williams, yn nghartref ei merch, Mrs. John Jones,, Diamond St., Slatington, Pennsylvania, foreu Sul, Awst 16eg, 1914 yn 63 mlwydd oed.

Cymerodd yr angladd le am ddau o'r gloch brynhawn y dydd Mercher canlynol gyda gwasanaeth byr wrth y ty, ac yna ymhellach yn addoldy yr Annibynwyr, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. Eifion Jones, Rome, New York, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. John Williams (T. C.), o'r ardal hon, a rhoddwyd hi i orphwys yn mynwent Fairview.

Merch ydoedd yr ymadawedig i'r diweddar John Owen ac Ellen Jones, Blaen y Waen, plwyf Bangor, Gogledd Cymru. Yr oedd yr ieuengaf o ddeuddeg o blant, a'r oll wedi ei rhagflaenu yn yr angeu oddigerth un brawd o'r enw Harry Jones, yr hwn sydd yn byw yn Isle of Weight, Lloegr.

Yn niwedd Awst, 1889, symudodd y teulu o Bethesda, Gogledd Cymru, i New Rockland, Canada, ac ar ol bod yn byw yn y lle uchod am oddeutu pum mlynedd, ymfudasont drachefn i'r Talaethau gan sefydlu yn yr ardal hon.

Yr ydoedd yn aelod gyda chrefydd er yn blentyn, a bu yn ffyddlon gyda'r achos yn y lle hwn hyd y diwedd.

Gadawa i alaru ar ol briod tyner a mam ofalus; ei phriod Owen H, Williams, yr hwn sydd yn awr yn gwneyd ei gartref gyda'i ferch a'i fab-yn-nghyfraith, John E. a Jane Jones ar Diamond Street; a'r plant canlynol: Harry, John, Jane Jones, Thomas, Owen, o'r ardal hon, a Robert, Allentown, Pennsylvania, a William, Pen Argyl, Pennsylvania, ac un brawd, sef Harry Jones, Isle of Wight, Lloegr.

Y Drych ~ Medi 17eg 1914.