MRS. ELLEN WILLIAMS. CARROLL, NEBRASKA.
Bu farw Mrs. W. M. Williams, yn ei chartref yn Carroll, Nebraska, Gorphenaf 18fed, 1914 yn yr oedran o 64 mlwydd.Ganwyd Ellen Hughes yn Bethesda, sir Caernarfon, Tachwedd 5ed, 1860, a'i rhieni oeddynt Ellenor a George Hughes. Collodd ei mam pan yn bump oed. Pan yn yr oedran tyner o 15 mlwydd oed ymunodd ag eglwys y Wesleyaid a cadwodd eu ffydd hyd y diwedd.
Ymbriododd a W. M. Williams, Gorphenaf 2ail, 1874, Ganwyd o'r undeb hwn chwech o blant; bu farw dau yn eu babanded. Goroesir Mrs. Williams gan briod galarus a phedwar o blant: George, Catherine, Elias a Lizzie.
Yn 1889, hwyliasant am America o dref Caernarfon, a daethant yn mlaen i Omaha, Nebraska, ac yn y flwyddyn 1902 symudasant i ardal Carroll, Nebraska.
Bu ein diweddar chwaer yn ddyoddefydd mawr am flynyddau lawer; math o grydgymalau (rheumatism) oedd ei hafiechyd. Dyoddefodd yr holl gystudd fel un o wroniaid y ffydd, ni chlywsom hi erioed yn grwgnach yn erbyn trefn Rhagluniaeth, ond yn ein croesawu bob amser a gwen ar ei gwyneb, ac aberthodd ei phriod a'r plant yr oll ar allor cariad er ei mwyn, ond ychydig oedd gallu y meddygon i'w helpu yn y blynyddoedd diweddaf.
Cymerodd y claddedigaeth le Gorphenaf 20fed. Gweinyddwyd yn deimladwy ar yr amgylchiad gan y Parch. R. J. McKenzie, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. D. T. Davies. Eu tystiolaeth ydoedd fod Mrs. Williams yn ddynes dduwiol, ac fod marw yn elw iddi. Canodd y cor yn Gymraeg yn deimladwy iawn, a'r cor o eglwys M. E. Carroll.
Yr oedd y blodau yn hardd ar yr arch. Rhoed ei gweddillion i orwedd yn mynwent Carroll, Nebraska, a trodd yr ardal allan yn gryno i dalu parch iddi ac i gydymdeimlo a'r teulu galarus. Heddwcn i'w llwch. Dymunir ar i bapyrau Cymru godi yr uchod.
Isaac O. Jones.