MRS. ELLEN FFOUK WILLIAMS. BANGOR, NORTHAMPTON COUNTY, PENNSYLVANIA.
DATHLIAD PRIODAS EURAIDD.
Haner can mlynedd yn ol, sef Mai 15fed, 1864, yn Mangor, Gogledd Cymru, unwyd par ieuanc rhinweddol ac urddasol mewn glan briodas, sef John R. Williams a Miss Ellen Williams (Llinos Arvon).Y mae'r ddau erbyn hyn yn 73 a 71 oed, ac yn byw yn Mangor, Pennsylvania, ers un a deugain o flynyddoedd. Y maent wedi codi teulu lluosog, ac y maent hwy a'r plant mewn parch mawr gan bawb a'i hadwaenant. Y mae iddynt saith o blant, fel y canlyn: Robert Williams, Mrs. Jeanette Jones, Miss Janle Williams, Jabez Williams, Miss Carrie Williams, a John R. Williams, yr oll o Fangor, a William Williams, o Pen Argyle. Y mae iddynt dri ar ddeg o wyrion, a thri o orwyrion. Yr oedd pedair cenedlaeth yn bresenol yn nathliad y goffadwriaeth prydnawn dydd Sadwrn diweddaf, Mai 16eg.
Oherwydd cyflwr gwanaidd presenol iechyd Mrs. Williams, cyfyngwyd ar y gweithrediadau, er hyny, cafwyd digon o arwyddion i amlygu y teimlad o barch a ffynai tuag atynt. Yr oedd y ty wedi ei addurno yn dlws a rhedynau a blodau, a thua haner cant o berthynasau a gwahoddedigion yn cyfranogi o'r wledd ysblenydd ddarparwyd gan ddwylaw caredig ar gyfer y dathliad. Yr oedd y deisen briodas yn arddunol dros ben, a chrugwyth o bethau da, a melus: odiaeth eraill ar gyfer pawb.
Wedi boddloni y dyn nesaf i mewn, cawd cyfarfod tawiel o anerchiadau ac anrhegu. Yr oedd y Parch. Ivor Thomas yn ei hwyliau goreu fel arfer, ac megys y gall mewn amgylchiadau fel hyn. Dylynwyd ef gan Mri. John Thorman, un adnabyddus o'r ddau erioed; a rhoddodd anierchiad difyr, a William O. Pritchard yn ei ganlyn; y mae ef wedi ymbriodi a chwaer i Mrs. Williams, o doniol iawn oedd ei awgrymiadau ef.
Y mae Mr. David Evans (gohebydd a blaenor y T. C.) yn briod a chwaer arall i Mrs. Williams. Darllenodd yr ysgrifenydd ychydig o benillion 'talcen slip' chwedl yr Hwntw, ac yna y daethpwyd at brif waith y dydd. Cafodd Edward Foulkes amser da ac hwylus, ac mewn modd deheuig cyflwynodd i'r par ieuanc-hen hen-ieuanc, amryw o anrhegion gwerthfawr, rhai yn aur, ac eraill yn dlysion; ac yn eu plith yr oedd ffon hynod, ac yn ei phen beiriant i daflu fflachiadau o oleuni trydanol i oleuo llwybr bywyd y dyfodol. Eglwys y T. C. oedd y tu ol i hon, ac hefyd cadair hardd i Mrs. Williams.
Yr oedd yno gadwynau a spectol aur ac aur bathedig, a.y. Llongyfarchwyd hwynt yn siriol gan bawb; a llifeiriai pobl i gyfeiriad eu hanedd dymunol hyd oriau yr hwyr.
Yr oedd Mr. Jabez M. Williams a'i briod o WilkesBarre yno, ac y mae efe yn frawd i Mrs. Williams, ac yn ohebydd derbyniol i'r "Drych." Gwelwyd yno hefyd Mrs. Jeanette Williams a Keziah, ei merch, o New York. Nid, rhyfedd y parch a'r edmygedd hwn. Y mae y ddau wedi bod yn ddefnyddiol a gwasanaethgar iawn i eglwys a chymdeithas trwy eu hoes.
Cafodd Mrs. Williams ei hanrhydeddu yn Nghymru fel cantones ieuanc a galluog; yr oedd ei llais mwyn, melodaidd, wedi toddi ei ffordd i galon ei gwlad a'i chenedl, ac enillodd wobrau lawer. Tua 17 oed, cafodd y ffugenw Llinos Arvon yn un o Eisteddfodau Conwy. Enillodd yn Eisteddfodau Caernarfon tuag 1864. Tua'r adeg yma yr oedd Hwfa Mon ac Eben Fardd yn ymdrechu a'u gilydd. Cydganodd Llinos droion gydag Eos Gwynedd; yn y cyfnod yma cododd Miss Watts; fel comed yn myd y ser, gan dynu sylw pawb i entrych byd y gan. Aeth heibio, ond fe barhaodd Llinos dawel, fwynaidd i oleuo a chanu am ysbaid maith.
Dywedai un wrthyf yr wythnos hon iddo wrando arni yn canu mewn ychydig o wythnosau ar ol claddu ei mam, a hyny mewn cyngerdd yn Ngogledd Cymru. Yr oedd dwysder ei gwedd, a duwch ei galarwisig, a'i phrofiad personol ar y pryd hwn yn peri i'r unawd "Yr Eneth Amddifad" a ganwyd ganddi y tro hwnw, i godi y gynulleidfa megys ar eu traed, a llygaid pawb yn foddfa o ddagrau, tro nad a yn annghof am amser eto i ddod.
Yr oedd John R. Williams yntau yn flaenor eglwysig er yn foreu; ac y mae eglwys y T. C. yma yn Mangor yn gwerthfawrogi ei lafur a'i gymdeitthas yn y ffordd hono er ys blynyddau bellach. Y mae eu plant yn troi mewn cylchoedd defnyddiol a chrefyddol, elflen y gan yn amlwg yn yr wyrion; disgynyddiaeth doniau yn dweyd y byddant fyw yn eu plant, a phlant eu plant am gyfnod maith eto yn hanes y byd.
Hir oes, a blynyddoedd maith boed iddynt, yw dymuniad llawer a'u hadwaenant.
Gan Alfardd Fychan.
Y Drych ~ Mai 28ain 1914.
MRS. ELLEN FFOUK WILLIAMS. BANGOR, NORTHAMPTON COUNTY, PENNSYLVANIA.
Cof am Mrs. John R. Williams (Llinos Arfon).
Bu y chwaer anwyl, Llinos Arfon, farw yr 28ain o fis Gorphenaf, ar ol blyn- yddoedd o waeledd. Cafodd ei chaethiwo yn ei chartref gan ei hafiechyd fel na allai fyned ond ychydig allan o'r ty, ac ar adegau byddai yn cael ymosodiad caled gan ei hen elyn, ond er y gwaeledd parhaus, daeth ei diwedd yn sydyn. Yr oedd hi a'r teulu yn meddwl y gallai ddod dros, y diweddaf fel y rhai blaenorol, ond fel arall y bu er mawr alar i'r teulu.Ganwyd ein chwaer yn Caernarfon, yn y flwyddyn 1843, yr hyn sydd yn gwneyd ei hoed yn 71 mlwydd. Cafodd gyraedd terfyn yr addewid. Yr oedd yn ferch i Morris Williams Ffouk; un o Ffoukiaid Llanddeiniolen, ei mam Jannett Williams, Llanrug. Symudodd ei rhieni pan oedd ein chwaer ond ieuanc i ardal Bethel, ac yno y buont hyd eu marwolaeth. Fel un o blant Bethel yr adwaenid ein gwrthrych gan bawb.
Yr oedd yr oll o'r teulu yn gerddorion, ond hi oedd y benaf yn y teulu. Cafodd sylw yn mysg enwogion cerddorol Cymru dros 60 mlynedd yn ol. Cofiwyf yn dda y byddai enw Llinos Arfon, Eos Gwynedd, Edith Wyn, Eos Morlais a Clegir yn enwau teuluaidd yr adeg hono.
Ychydig dros haner cant o flynyddoedd yn ol, aeth i'r ystad briodasol gydg, John R. Williams, a gwelwyd yr hanes yn ddiweddar yn y "Drych" pan yn dathlu yr amgylchiad.
Daeth y teulu i'r wlad hon 41 mlynedd yn ol, a gwnaethant eu cartref yn Bangor. Y mae iddynt saith o blant yn fyw: Robert M., Jabez, John J., William (Ieu.), Mrs. Janett Jones, Jane E. a Ceridwen. Bu farw Esther yn eneth ieuanc 21 oed, ac effeithiodd yr amgylchiad yn fawr ar y rhieni hyd y diwedd, a byddai yn meddwl llawer o'r plant, a'r plant yr un modd yn meddwl yn fawr o'u mam. Gwnaethant ddangos hyny yn ystod ei gwaeledd; nid oedd dim yn ormod ganddynt ei wneyd iddi yn ei gwaeledd.
Mae iddi ddwy chwaer, Mrs. David J. Evans a Mrs. William O. Pritchard, yn aros yn Bangor, ac un brawd, Jabez M. Williams, yn Wilkes-Barre. Hefyd luaws o wyrion ac orwyrion.
Cafodd ein chwaer ei magu yn yr eglwys, a bu yn ffyddlawn i'w phroffes hyd y diwedd. Yr oedd wedi ei chynysgaeddu a thalentau i fod yn ddefnyddiol, yn enwedig y dalent gerddorol. Mae meddu talent yn beth mawr, ond mae defnyddio'r dalent i wneyd daioni yn beth mwy. Cyflwynodd hi ei holl gymwysderau ar allor crefydd i hyrwyddo achos Iesu Grist yn ei flaen ac yr oedd yr achos yn agos at ei chalon bob amser. Dyma fyddai canolbwynt ei hymddyddanion bob amser, son am grefydd a'i phethau oedd ei hyfrydwch penaf. Er yn methu bod yn bresenol yn y cyfarfodydd eyhoeddus, byddai yn awyddus i wybod holl symudiadau yr eglwys tuag at ei llwyddiant. Siaradodd lawer am grefydd adref yn nghlywedigaeth y plant, yr hyn sydd yn brin gan grefyddwyr mae lle i ofni y dyddiau hyn.
Yr oedd o dymer dda bob amser, efallai ei bod yn naturiol felly; ond mae gras yn rhoi ychwaneg o harddwch ar rinweddau naturiol.
Mae'r eglwys wedi cael colled trwy ei marwolaeth, ac yn sicr iawn colled fawr yn y teulu. Mae'n debyg mai yn y cartref y bydd i'w deimlo fwyaf Mae ein cydymdeimlad yn fawr a'r hen frawd yn ei unigedd, er ei fod yn nghanol y plant, ond ni allent hwy ar eu goreu lenwi y gwagder. "Ymnerthwch yn yr Arglwydd ac yn nghadernid ei allu Ef," a'r plant yr un modd, a phawb o'r perthynasau.
Cafodd gladdedigaeth anrhydeddus. Gweinyddwyd gan y Parch. John Williams, Slatington; Ifor Thomas a John Owen Jones, Bala. Cafwyd sylwadau pwrpasol, ac yn hynod deimladwy.
Heddwch i'w llwch.
Gan Thomas O. Jones.