MR. ELLIS O. WILLIAMS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Wedi dyoddef o dan afiechyd poenus ysbaid tair wythnos bu farw Ellis Owen Williams, yn ei gartref 1529 West Street, foreu ddydd Llun, Mai 26ain.

Ganwyd Ellis O., yn Ffestiniog, Gogledd Cymru, oddeutu 44 mlynedd yn ol, ac enwau ei rieni oeddynt Griffith D. ac Ann P. Williams.

Ymfudodd i'r wlad hon pan yn 19 mlwydd oed, a chan ei fod wedi gorphen prentisiaeth fel siopwr yn yr Hen Wlad, cafodd le fel gwerthwr gyda Hugh Glenn and Co. Yn ddiweddarach aeth i wasanaeth John A. Roberts and Co.; a bu gyda'r cwmni hwnw ysbaid ugain mlynedd; ac ychydig fisoedd yn ol, aeth i wasanaeth Robert Fraser.

Cyfrifid ef yn werthwr cydwybodol a llwyddianus, yn wr o ymddiried gan ei gyflogwyr, ac yn boblogaidd gyda'r prynwyr ddeuai i'r stor. Y mae cerddoriaeth yn y teulu, a chafodd Ellis y dalent hono hefyd. Yr oedd yn hoff o ganu, a bu yn aelod o amryw gorau yn y ddinas, ac yr oedd yn un o sefydlwyr cor meibion yr Haydns, a gwasanaethodd hefyd yn nghor eglwys Grace, lle yr oedd yn aelod.

Gedy mewn galar, ei briod Jennie Williams; chwech o feibion, John P., Robert, Ellis O., Jr., David, Raymond a William; un ferch Anna; un brawd, John P. Williams, ac un chwaer, Mrs. Samuel Evans, Holland Patent, a dangosir cydymdeimlad mawr a'r oll o'r teulu trallodus.

Y Drych ~ Mai 28ain 1914.