MRS. JANE WILLIAMS. GRANVILLE, NEW YORK.

Dydd Llun, Mehefin 8fed, bu farw Mrs. Jane Williams, neu yn fwy hysbys Mrs. Williams (Gae Corniog), gweddw y diweddar John Williams (Cae Corniog) yn 79 mlwydd oed.

Daeth i'r wlad hon o Nant Peris, Llanberis, driugain a dwy o flynyddoedd yn ol, pan nad oedd ond geneth ieuanc tua dwy ar bymtheg oed, gan ymsefydlu yn Middle Granville, New York, yn yr hwn le y cyflwynodd ei phapyr aelodaeth y pryd hwnw, ac ni chafwyd achlysur o gwbl i'w diarddel, nac ychwaith i godi ei phapyr i unman arall, felly yr oedd yn aelod yn eglwys Middle Granville am driugain a dwy o flynyddoedd. Bu yn hynod weithgar gyda'r achos yno ar hyd ei hoes hyd nes yr aeth yn wael ac yn fethiantus, pryd y daeth i aros yma i Granville at ei merch Eta rhyw bum' mlynedd yn ol, a chyda hi y diweddodd ei hoes, ac y cafodd bob gofal a allai braich o gnawd ei estyn iddi.

Cafodd gystudd trwm o'r cancr, ac fel yr oedd hi yn heneiddio yr oedd ei chlefyd yn gwaethygu, fel y gorfu iddi fod yn ei gwely y pedwar mis diweddaf o'i hoes.

Y mae iddi saith o blant i alaru ar ei hol, sef Mrs. William J. Williams a Mrs. F. K. Ruff, o ddinas New York; John J. ac Osborn M. Williams, o Califfornia; Ellis J. Williams, o Nebraska; Mrs. James Jenkins a Mrs. Thomas Pritchard, o Granville, New York. Hefyd y mae iddi un chwaer, sef Mrs. Margaret Hughes, Cambridge, Wisconsin.

Yr oedd Mrs. Hughes yn hen dderbynydd o'r "Drych," a chanddi feddwl mawr o hono. Y dydd o'r blaen gwelais ddarlun o Mrs. Hughes a'r "Drych" ar ei gliniau yn y darlun, a gallech weled yn hwylus y "Drych" mewn geiriau breision ar y papyr.

Cafodd angladd tywysogaidd, ac amryw o hen breswylwyr y dyffryn yno yn talu y gymwynas olaf o barch iddi. Dymunwn gyflwyno ein cydymdeimlad llwyraf a'r oll o'r teulu yn eu trallod.

Y Drych ~ Gorphennaf 2ail 1914.