MRS. JANE O ROBERTS WILLIAMS. BANGOR, NORTHAMPTON COUNTY, PENNSYLVANIA.
DAMWAIN I GYMRAES OEDRANUS YN BANGOR, PENNSYLVANIA.
Yn ystod gwaeledd y gwr ieuanc, Robert. L. Jones, yr hwn a fu farw yn ddiweddar yn y lle, byddai Mrs. Jane O. Williams, yr hon oedd yn byw yn lled agos i'w gartref yn talu ymweliad ag ef amryw weithiau yn ddyddiol er ceisio ei ddyddanu a'i gysuro yn ei gystudd. Ychydig oriau cyn ei farwolaeth, cafodd y fraint o sefyll wrth ei orwedd- le o boen a gweini arno, ond pan yr oedd ef yn ffarwelio a'i rieni a chyfeillion a llusern ei fywyd yn rhoddi yr ysgydwad ddiweddaf, ac yn cael ei diffodd yn addfwyn gan law angeu, deallwyd fod yr hen wraig wedi cyfarfod a damwain, drwy syrthio ar y llwybr troed o fewn ychydig latheni oddiwrth ddrws y ty. Prysurwyd ati er ceisio ei chynorthwyo, methai a cherdded fel y bu raid cael cerbyd i'w chludo gartref.Anfonwyd am y meddyg, ac wedi iddo gyraedd a gwneyd arcliwiliad, cafwyd fod yr hen wreigan druan wedi tori ei choes mewn dau fan. Anfonwyd am ei meibion, William yn Portland a Levi yn Easton. Wedi iddynt gyraedd nid oedd arbed ar gostau i fod, ac anfonwyd am ddau o'r meddygon goreu i weini arni, ac wedi ymgyngori a hwy daethpwyd i'r penderfyniad mai gwell fyddai ei chludo i'r Easton Hospital. Gwnaed hyny, a bu yno'n gorwedd am beth amser mewn poenau dirfawr.
Yn ystod ei harosiad yno ymwelwyd a hi yn ddyddiol gan ei meibian, perthynasau a chyfeillion.ac yn mysg y eyfryw gwelsom William R. Hughes (Gwilym o Fon) a'i briod; hef yd Mr. a Mrs. Thompson, New York. Deallwyd fod y ty o glai yn dechreu rhoi ffordd a daethpwyd i'r penderfyniad ei chludo gartref mewn cerbyd modur. Bu yn gorwedd am ychydig ddyddiau yn berffaith dawel a dirwgnach. Gweinyddwyd arni gan gyfeillion a pherthynasau, nid mewn geiriau yn unig ond mewn gweithred hefyd, ond er eu gallu hwy a meddygon bu farw yn 78 oed, ac felly yr ehedodd ei hysbryd at Dduw yr Hwn a'i rhoes.
Claddwyd ei gweddillion yn mynwent y lle, yn ngwydd tyrfa luosog a pharchus; y Parchn. Williams, Thomas a Harries yn gweinyddu'n effeithiol dros ben.
Merch ydoedd yr ymadawedig i'r diweddar Mr. a Mrs. William Roberts, Ty Mawr, Talywaenydd, Blaenau Ffestiniog, Gogledd Cymru. Ymfudodd i'r wlad hon gyda'i phriod, y diweddar Owen O. Williams tua 52 mlynedd yn ol.
Ganwyd iddynt dri o feibion ac un ferch pa rai a adawyd i alaru eu colled am fam dda a gofalus. Am y ddau fab hynaf, William a Levi, dywedwn eu bod yn addurn i'r genedl Gymreig yn Bangor. Gofalodd y ddau am angladd i'w mam yn un o'r rhai mwyaf anrhydeddus a welwyd erioed yn y lie. Er eu bod wedi gadael cartref er's llawer o flynyddau. a'u hymdrechion daearol wedi eu coroni a digon o dda y byd hwn, eto yr oedd eu cariad wedi ymglymu tuag at eu mam ac i wneyd ei chartref yn net ddaearol. pe buaswn yn feddianol ar aur bin archangel nis gallwn draethu fy llen yn ddigon da am y ddau fachgen yma. Duw a dalo iddynt yn ddeublyg.
Mae'r trydydd mab, Reuben, yn analluog i gyflawni unrhyw fath o archwyl er yn blentyn, ond diolch fod Tad yr amddifad yn fyw, ac wedi gofalu am gartref iddo gyda'i frawd William yn Portland.
Mae'r ferch. Lydia, ar hyn o bryd yn trafaelio trwy Ewrop gyda theulu o New York, a'r newyddion erbyn hyn, mae'n debyg, wedi ei chyraedd.
Gyda'r teulu yma y cartrefodd y cerddor a'r bardd adnabyddus William Moses (Eos Llety) am yn agos i 40 mlynedd; yntau heddyw fel aderyn unig wedi ei amddifadu o gartref, ond sylwodd llygaid Duw arno yntau ac y mae wedi parotoi nyth ar ei gyfer.
Yr oedd Mrs. Williams yn foneddiges a berchid gan bawb yn y dref. Ei bywyd a'i hymarweddiad yn llawn o rinweddau gwerthfawr. Yn aelod ffyddlon a selog yn eglwys Peniel pa un sydd eto yn gwisgo galarwisg ar ol colli chwaer a'i mynychodd mor selog ar hyd ei hoes. Yr oedd yn hynod am ei charedigrwvdd a'i chydymdeimlad. Adgof o'i thynerwch a'i chymwynas garwch wna i'w choffadwriaeth fod fyth yn felus a gogoneddus iawn. Tystiai y dorf fawr a'i hebryngent i dy ei hir gartref ar ddydd yr angladd pa mor bell yr enillodd serch ac ymddiried yr ardal, ac mae cydymdeimlad fel hyn yn iachau ac yn ysgafnhau baich y galon drallodus: ond Duw ei hun fedr dawelu'r ystorm.
Credwn ei bod yn awr yn llanw ei lle yn yr eglwys fuddugoliaethus yn y nef. Heddwch i'w llwch a nawdd dirion y nef fyddo dros y plant amddifaid a perthynasau a adawyd i alaru.
Bydded i'r "Rhedegydd" godi'r uchod er mwyn ei pherthynasau yn Ffestiniog.
Gan Gwilym Glan Conwy.