MR. JOHN R. WILLIAMS. RANDOLPH, COLUMBIA COUNY, WISCONSIN.
Prydnawn Iau, rhwng pump a chwech o'r gloch, Ebrill 23ain, yn nghartref Mr. a Mrs. John R. Jones, Randolph, Wisconsin, bu farw'r cyfaill John R. Williams (Bontnewydd) ac efe yn 83 mlwydd oed.Brawd ydoedd i'r diacon adnabyddus Griffith R. Williams. Ganed ef yn Nghaernarfon, Gogledd Cymru, a hyny yn mis Ebrill y flwyddyn 1831. Ymfudodd y teulu i'r wlad hon yn 1846, gan ymsefydlu ar y lle a adnabyddir heddyw wrth yr enw Bontnewydd, yn ardal Proscairon. Yma y treuliodd Mr. Williams yr oll o'i fywyd hyd ei symudiad i Randolph ryw bedair blynedd ym ol. Buasai yn wael iawn ar hyd y gauaf, ond bernid ei fod yn araf ymadfer trachefn. Buasai allan ychydig a'r olwg arno yn rhyw dystio ei fod yn graddol wella. Ond cafodd ymosodiad sydyn o galon-ddiffygiad, ac yn mhen tair awr yr oedd ei ysbryd hynaws wedi dychwelyd "at Dduw, yr hwn a'i rhoes ef."
Gwr tawel, distwr, ac anymhongar iawn oedd Mr. Williams. Meddai ar dafod arabeddus a ffraethbert, yr hyn a wnai ei gwmni yn ddifyr ddyddoroJ i lawer o'i gyfeillion. Yr oedd hefyd yn hynod o unplyg a gonest yn ei ymdrafod a chymdeithas, yr hyn a barai yr edrychid i fyny ato fel gwr o ymddiried diameuol. Darllenodd lawer ar ei Feibl, ac yr oedd yn bur hyddysg yn ei gynwys - yn fwy felly, hwyrach nag y meddyliai llawer.
Claddwyd ef y dydd Llun canlynol. Gweinyddwyd gan y Parchn. F. Tegfryn, Roberts, W. W. Davies, a John Roberts. Dodwyd ei weddillion i orwedd yn mynwent Randolph, a hyny yn nghanol arwyddion o alar mawr a dwys.
F. T. R.