MR. ROBERT L. WILLIAMS. GRANVILLE, NEW YORK.
Dydd Iau, Mehefin 25ain, bu farw Robert L. Williams (Bob L.) yn hynod sydyn er ei fod ers misoedd adref yn wael, yn driugain mlwydd oed.Daeth i'r wlad hon gyntaf tua dwy flynedd a deugain yn ol. Ganwyd ef yn Capel Curig, Gogledd Cymru. Bu yn gweithio mewn amryw fanau yn y wlad hon a Canada.
Darfodedigaeth oedd achos ei farwolaeth, ac yr oedd yn aros er's rhai misoedd gyda Mr. a Mrs. Griffith Williams, a chafodd bob gofal ganddynt, ond drwg ar les ei hun oedd Bob fel yr oedd gwaethaf; yr oedd yn un hynod garedig bob amser.
Cleddir ef heddyw, ddydd Sadwrn: y mae iddo un brawd, sef Thomas Williams, Bryn yr Efail, Gogledd Cymru.
T. L. W.