MR. WILLIAM HUGHES. POULTNEY, RUTLAND COUNTY, VERMONT.
ARDALOEDD Y CHWARELI.
Poultney, Vermont. Mawrth 13, 1915.Ddydd Mercher diweddaf, dygwyddodd damwain alaethus yn chwarel Eureka, pryd y collodd dau eubywvdau, sef William Hughes, North Poultney, a Cornelius Burns, Fairhaven.
Ymddengys fod y ddau bron a gorphen rhoi powdwr mewn twll ac iddo ffrwydro gan eu taflu a'u malurio; ac yr oedd yr olwg arnynt yn galonrwygol i'r eithaf.
Bu yr olaf fyw am rai oriau mewn poenau dirfawr. Gadawodd Hughes briod a thri o blant alaru ar ei ol.
Cleddir ef heddyw yn mynwent Poultney.
Mae cydymdeimlad llwyraf yr ardaloedd hyn a'r teuluoedd trallodedig yn eu profedigaeth lem.
Y Drych ~ Mawrth 18fed, 1915.
MR. WILLIAM HUGHES. POULTNEY, RUTLAND COUNTY, VERMONT.
Mawrth 13eg. -Dydd Mercher, Mawrth l0fed, 1915, brawychwyd ein hardal gan y newydd fod damwain ddifrifol wedi cymeryd lle yn chwarel yr Eureka, pryd y cyfarfyddodd dau o'n cydwladwyr a'u diwedd mewn modd erchyll iawn, ac yr anafwyd un arall. Y ddau a laddwyd oeddynt, Cornelius Burns, Fair Haven, a William Hughes, North Poultney, a'r un anafwyd oedd George Crainoc, efe wedi cael diangfa gyfyng iawn.Yr oedd y brawd William Hughes yn enedigol o Fethesda, Arfon, yn fab i Mr. a Mrs. Eben. Hughes, Wern Saeson, Llanllechid, ac yn briod gyda Maggie, merch Mr. a Mrs. John Roberts, o'r ardal yma, pa un sydd wedi ei gadael yn weddw gyda thri o fechgyn bach i ofalu am danynt.
Cymerodd ei gladdedigaeth le y Sadwrn (heddyw). Cynaliwyd y gwasanaeth yn nghapel Farnamsville, y Parchn. Roberts a J. D. Owen, Fair Haven, yn gwasanaethu.
Hawdd canfod oddiwrth y dyrfa fawr ddaeth yn nghvd i dalu y gymwynas olaf i'r brawd Hughes fod ganddo llawer iawn o gyfeillion. Claddwyd, ef yn Poultney, Vermont.
Mae ein cydymdeimlad ni fel ardalwyr yn gyffredinol a'r teulu yma sydd yn ein mysg. Hefyd a theuJu ein hymadawedig frawd yn Nghymru, y rhai sydd eto heb glywed y newydd trist. Hyderwn y bydd amgylchiad dwys fel hyn yn ein dwyn i sylweddoli mor fregus yw bywyd, ac y byddwn oll yn ymorphwys dan ei ewyllys Ef.
Gohebydd.