MR. ROBERT M. WILLIAMS. ALAMEDA, CALIFORNIA.
Bu farw yn hynod o sydyn a dirybudd Mr. Robert M. Williams, Alameda, California, un o hen ardalwyr Oakland a San Francisco, ac un o ffyddloniad yr achos Cymraeg.Ar ol bod yn y moddion nos Sul, Mai 17eg, aeth gydag eraill o'i gydgenedl yn yr heol-gerbyd tua'i gartref. Ymddengys iddo gael "stroke of apoplexy" yn fuan ar ol eistedd. Gan fod ei gyfeillion yn gorfod disgyn cyn iddo gyraedd gartref, sylwasant ei fod yn cysgu, ac heb ei aflonyddu, na dweyd "nos da" disgynasant. Aeth y car yn mlaen, a phan wrth yr heol yr arferai ddisgyn, aeth y swyddog i'w ddeffro a'i hysbysu, ond gwelodd ei gyflwr, ag awd ag ef i'r dref, ac ar ol hir amser, cafwyd hyd i'w gartref, ac aeth cymydog i'w gyrchu.
Cawd meddyg, ond yr oedd y cyfaill tuhwnt i allu meddygol, a thri o'r gloch boreu Llun, ehedodd ei ysbryd at yr Hwn a'i rhoes, ac efe yn 73 mlwydd oed.
Parodd y prudd newydd hwn i dyrfa o'i gyd-genedl ymgasglu i dalu y gymwynas olaf iddo, y Parch. G. Griffiths yn gweinyddu yn y capel. Hebryngwyd ei weddillion i Mountain View Cemetery dydd Mercher, Mai 20fed. Daeth yma tua 40 mlynedd yn ol. Saer oedd wrth ei grefft, ond yr oedd wedi ymneillduo ers rhai blynyddau ac yn byw gyda ei wraig yn Alameda. Nid oedd ganddynt deulu.
Un o ardal Llanberis ydoedd, ac yr oedd iddo nai a pherthynasau pell yn byw yma. Yr oedd yr ymadawedig yn wr tawel, a dystaw a diymhongar, a'i sel yn fawr at yr achos mawr, a phob symudiad Cymreig, a'i rodiad yn weddus a chyson fel Cristion yn mhob amgylchiad. Tad y gweddwon fo'n amddiffynfa i Mrs. Williams yn ei hunigrwydd a'i gwendid yw dymuniad yr holl gylch Cymreig.
R. J.