MR. WILLIAM LLOYD WILLIAMS. RACINE, WISCONSIN.

Dydd Mawrth, Tachwedd 17eg, 1914, bu farw yr henafgwr parchus, Mr. William Lloyd Williams, un o Gymry hynaf ein dinas, ac un o'r hen sefydlwyr, pa rai sydd yn myned yn llai y naill flwyddyn ar ol y llall.

Ganwyd Mr. Williams Chwefror 5ed, 1834, yn Cynfal Fawr (hen gartref Hugh Llwyd) yn mhlwyf Maentwrog, swydd Feirionydd. Enwau ei rieni oeddynt Mr. a Mrs. Edward Williams.

Cafodd ddygiad i fyny parchus, a chadwodd yn agos at bobl yr Arglwydd ar hyd ei oes.

Cododd awydd ynddo am ddod i'r America pan yn bur ieuanc, a chawn ef yn gadael hen ardal enwog Maentwrog yn ngwanwyn y flwyddyn 1852, gan ymsefydlu yn Utica, New York. Arosodd yno am tua pedair blynedd, a thra yno yn y flwyddyn 1855 yr ymbriododd a Miss Ann Humphreys, genedigol o ardal Bryncrug, swydd Feirionydd. Bu Mrs. Williams farw Medi 25ain, 1910, yr hyn oedd loes drom iddo yntau.

Yn y flwyddyn 1856 cawn iddynt adael Utica a dyfod i Racine lle y treuliasant weddill eu hoes mewn parch gan bawb, ac mewn amgylchiadau cysurus. Saer coed ydoedd Mr. Williams wrth ei alwedigaeth, a chyfrifid ef yn un o'r crefftwyr goreu yn y ddinas. Mae yn debyg mai efe ydoedd un o'r adeiladwyr hynaf yn y dref, ac y mae yma amryw o adeiladau wedi iddo eu gosod i fyny, fydd yn aros am flynyddau yn addurn i'w goffadwriaeth, un o ba rai yw y Tabernacl, yr addoldy Cymreig. Yr oedd ei fedrusrwydd a'i onestrwydd yn gyfryw ag ydoedd yn enill edmygedd a pharch gan yr oll a'i hadwaenai.

Bu yn aelod ffyddlawn ar hyd ei oes gyda'r Methodistiaid, a theimlai ddyddordeb dwfn yn mhob symudiad Cymreig, ac yr oedd yn awyddus am weled y da yn llwyddo yn mhob man. Ni fu ei iechyd yn dda y ddwy flynedd ddiweddaf, ac felly nid ydoedd yn gallu dylyn y moddion fel y dymunai. Teimlai yn llawen pan y gallai ddod i ambell i oedfa, a gallem weled arno ei fod yn cael mwynhad a phleser wrth wrando yr efengyl yn cael ei phregethu, a diau iddo gael mynediad helaeth i mewn i'r trigfanau nefol.

Yr oedd ei gariad yn fawr at yr Ysgol Sul hefyd, bu yn athraw llwyddianus am flynyddau ar ddosbarth o rai mewn oed, a chwith yw gweled ei le yn wag, a'r dosbarth wedi ei chwalu. Bydded i'w fywyd fod yn esiampl i eraill yn y cylch hwn, gan fod arnom angen athrawon yn lle y rhai sydd yn colli, neu fe aiff yr Ysgol Sul i lawr, ac fe dderfydd ei dylanwad.

Y gauaf diweddaf, bu chwaer i Mr. Williams yn aros am ysbaid gydag ef, a theimlai yntau yn falch o'i chwmni, gall eu bod heb weled eu gilydd er's amser. Ond Gorphenaf 17eg, 1914, bu ei chwaer, Mrs. Jane Evans farw yn ei chartref yn Brookfield, Missouri, ac ni fu yntau fyw ond ychydig fisoedd ar ei hol. Mae brawd iddo o'r enw Mr. Meredith Williams yn byw yn Garden City, Missouri, a haner brawd yn agos i Edmonton, Canada.

Gadawa hefyd saith o blant, pedair merch a thri mab mewn dwfn drallod, sef Misses Eleanor, Mary, Jennie, Emma, ac Edward yn byw yma; John L. yn byw yn Hartney, Manitoba, a William L. yn Winnipeg, Canada.

Cymerodd ei angladd le y dydd Sadwrn canlynol yn y capel Cymreig, pryd y daeth cynulliad lluosog yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i'w weddillion marwol. Gweinyddwyd yn briodol gan y Parch. John Davies a'r Parch. Job E. Jones, S. Side, Chicago. Nawdd Duw fyddo dros yr oll sydd wedi eu gadael mewn galar a hiraeth ar ei ol.
Gan H. D. Evans.

Y Drych ~ Chwefror 18fed, 1915.