MR. WILLIAM R. WILLIAMS. BIG ROCK, ILLINOIS.

Brydnawn Sabbath, Awst 16eg, yn nghartref ei rieni, Mr. a Mrs. Robert T. Williams, Big Rock, Illinois, bu farw William R. Williams. 4051 Wilcox Street, Chicago, Illinois.

Wedi gweithio am yn agos i ugain mlynedd fel peirianydd i gwmni yr Illinois Central R. R., cyfarfu ein cyfaill a damwain ofidus ddwy flvnedd yn ol. Dysgwylid unwaith y byddai iddo lwyr wella, ond graddol waethygu a wnaeth hyd y diwedd. Sylweddolai fod y diwedd yn agoshau, a gwynebodd y glyn yn hyderus a thawel, mor dawel ag y bu fyw.

Bu yn aelod ffyddlon o eglwys Hebron am flynyddau.

Claddwyd ei weddillion y dydd Mercher canlynol yn nghladdfa, y Cymry yn Big Rock, y Parch. Mr. Smith yn gwasanaethu.

Ganwyd yr ymadawedig yn Ffestiniog, Gogledd Cymru, Rhagfyr 16eg, 1871. Ymbriododd a Gwendolen, merch y diwedd ar Dr. John Cadwaladr a'i briod yr hon sydd wedi ei gadael gyda'i geneth fach i alaru eu colled ar ei ol, a hyny mor fuan ar ol colli ei hanwyl dad. Gedy hefyd ddau frawd, Roderick o Chicago, Illinois; Robert, yn Alberta, Canada; a dwy chwaer, Mrs. Elizabeth Stalen, Hinckley, a Mrs. Ellen J. Benjamin, Big Rock, Illinois.

Cydymdeimlir yn fawr a'r oll yn eu galar. Dymunir ar i bapyrau Ffestiniog, Gogledd Cymru, wueyd sylw o'r uchod.
Gwilym E. Jones.

Y Drych ~ Medi 17eg, 1914.