MRS. ANN WYNNE. BANGOR, PENNSYLVANIA.

Yn Bangor, Pennsylvania, Awst 5ed, bu farw Mrs. Ann Wynne, gweddw y diweddar Jeremiah Wynne, yn 64 mlwydd oed ar ol cystudd byr, ond blin iawn. Nid oedd yn ryw iach iawn er ys blynyddau, ond nid oedd neb yn meddwl fod ei ddiwedd mor agos.

Merch ydoedd i Hugh a Sarah Lloyd, melinydd yn Pentrefoelas, Gogledd Cymru.

Ymbriododd a Jeremiah Wynne, a daeth y teulu i'r wlad hon tua 32 mlynedd yn ol, gan ymsefydlu yn Bangor, Pennsylvania. Mae iddi frawd, Morris Lloyd, yn Ffestiniog, Gogledd Cymru, a chwaer, Mrs. William Griffiths, yn Lerpwl.

Gadawodd bump o blant i alarn ar ei hol, Hugh, yn briod, ac yn byw yn Pen Argyl, Pennsylvania; Margaret, yn sengl yn byw yn Philadelphia; John, Morris, a Mrs. William W. Davies, yr oll yn Bangor. Yr oedd Morris yn sengl, ac yn cadw cartref i'w fam, ac yn dyner a gofalus iawn o honi.

Yr oedd yr ymadawedig yn un o blith yr aelodau hynaf eglwys Annibynol Bangor, a'r teulu wedi llanw lle pwysig mewn cysylltiad a chaniadaeth y cysegr. Bu Jeremiah Wynne yn arwain y gan am flynyddau, ac y mae John Wynne, a Jennie (Mrs. Davies yn awr) yn organyddion yr eglwys.

Claddwyd ei gweddillion yn mynwent y lle, ddydd Sadwrn, Awst yr 8fed, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. I. Thomas, a Bauden, gweinidog yr M. E. South Bangor.

Mae cydymdeimlad y lle a'r plant amddffad yn eu galar. Heddwch i'w llwch hyd foreu yr adgyfodid.
T. Thomas.

Y Drych ~ Awst 27ain, 1914.